Cynorthwyydd Lles Emosiynol in Cardiff

Cynorthwyydd Lles Emosiynol in Cardiff

Cardiff Full-Time On-site
Y

DescriptionSupporting documentsEmployerLocation

Mae cyfle cyffrous ar gael i ymuno â thîm Yr Hafan fel Cynorthwyydd Lles Emosiynol. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth targedig i unigolion a grwpiau bach o ddisgyblion, gan eu helpu i ddatblygu'r sgiliau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn yr ysgol ac yn ehangach.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gydag Arweinydd Yr Hafan a'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gan gynnal gweithgareddau ac ymyraethau lles emosiynol wedi'u teilwra i anghenion disgyblion. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi dysgwyr sy'n wynebu rhwystrau i ddysgu oherwydd anghenion emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol.

Bydd profiad neu gymwysterau mewn dulliau megis ELSA, Talkabout neu THRIVE yn fanteisiol, er nad yw'n hanfodol gan y bydd y gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol a chefnogol gyda phobl ifanc yn hollbwysig.

Safeguarding Statement

Mae Ysgol Plasmawr wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus ac yn disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.

Ysgol Plasmawr is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.

Y

Contact Details:

Ysgol Plasmawr Recruitment Team