Pennaeth Ysgol Maes Garmon in Mold

Pennaeth Ysgol Maes Garmon in Mold

Mold Full-Time 25000 - 25949 £ / year (est.) No working from home possible
Y

At a Glance

  • Tasks: Lead and inspire the whole school community while promoting Welsh culture and education.
  • Company: Ysgol Maes Garmon, a vibrant educational institution.
  • Benefits: Competitive salary and professional development opportunities.
  • Other info: Join a supportive community committed to safeguarding and inclusivity.
  • Why this job: Make a real difference in students' lives and shape the future of education.
  • Qualifications: Strong leadership skills and a passion for education.

The predicted salary is between 25000 - 25949 £ per year.

Mae Corff Llywodraethol Ffederasiwn Cwlwm yn awyddus i benodi Pennaeth brwd, sydd â’r gallu i arwain, ysbrydoli, ac ysgogi cymuned gyfan. Mae’r Pennaeth yn gyfrifol am bob agwedd o waith Ysgol Maes Garmon, gan ddarparu gweledigaeth glir ar gyfer addysg yr ysgol, ynghyd â hybu, hyrwyddo a datblygu ei hethos Cymreig a Chymraeg. Mae’n gyfrifol am greu amgylchedd dysgu cyffrous, ysgogol a chynhyrchiol i’r disgyblion a’r staff, ac am eu morâl a’u lles cyffredinol.

Y Pennaeth yw’r swyddog proffesiynol arweiniol yn yr ysgol ac, ynghyd â’r Corff Llywodraethol a’r gymuned ysgol gyfan, mae’n gyfrifol am:

  • cyflawni cenhadaeth, creu gweledigaeth a sefydlu cyfeiriad strategol yr ysgol;
  • rheoli newid a llunio dyfodol yr ysgol;
  • sicrhau llwyddiant a gwelliant i’r ysgol trwy hunanwerthuso trylwyr;
  • sicrhau dysgu ac addysgu o’r safon uchaf, a safonau cyrhaeddiad uchel;
  • darparu cyfle cyfartal i bawb;
  • datblygu, gweithredu, monitro a gwella polisïau ac arferion yn barhaus;
  • gweithredu o fewn fframwaith o reoliadau a dehongli a chymhwyso deddfwriaeth berthnasol;
  • rheoli a threfnu’r ysgol o ddydd i ddydd i sicrhau fod adnoddau, gan gynnwys amgylchedd yr ysgol ac adnoddau dynol, yn cael eu defnyddio mewn ffordd effeithlon, effeithiol a diogel i gyflawni nodau ac amcanion yr ysgol;
  • sicrhau ymrwymiad y gymuned ehangach i’r ysgol trwy ddatblygu a chynnal rhwydweithiau effeithiol;
  • sicrhau ei d/ddatblygiad proffesiynol ei hun, a datblygiad proffesiynol holl staff yr Ysgol.

Mae’r penodiad yn unol ag amodau presennol y ddogfen “Amodau a Thâl Athrawon Ysgol”, ynghyd ag unrhyw ddeddfwriaeth bresennol arall yn ymwneud ag addysg a chyflogaeth, gan gynnwys safonau proffesiynol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth. Adolygir y swydd ddisgrifiad yn rheolaidd a gellir ei newid ar unrhyw adeg yn dilyn ymgynghoriad gyda deiliad y swydd. Nid yw’r disgrifiad swydd hwn yn dangos yr holl dasgau ond mae’n gosod y prif ddisgwyliadau yn unol â chyfrifoldebau deiliad y swydd.

Dyddiad cau: Dydd Llun Medi 14eg am 12.00 y.p.

CYFWELD: Cynhelir y cyfweliad dros gyfnod o ddeuddydd ar Hydref 7fed a 8fed 2026. Fe hysbysir yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer erbyn Medi 21ain 2026.

Sylwch fod pob swydd ysgol yn amodol ar wiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA).

Datganiad Diogelu: Mae Ysgol Maes Garmon wedi ei hymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus ac mae’n disgwyl i'w holl aelodau o staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir gan gynnwys ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oed, anabledd, cyfeiriadaeth rywiol neu grefydd.

Pennaeth Ysgol Maes Garmon in Mold employer: Ysgol Maes Garmon

Ysgol Maes Garmon is an excellent employer, offering a supportive and inclusive work environment dedicated to the welfare of students with communication difficulties. With a strong commitment to professional development and a focus on Welsh-medium education, employees can expect meaningful growth opportunities while contributing to a vital resource in the community. Located in Sir Y Fflint, the school fosters a collaborative culture that values diversity and encourages all staff to share in its mission of safeguarding and promoting the well-being of all learners.

Y

Contact Details:

Ysgol Maes Garmon Recruitment Team

We think you need these skills to ace Pennaeth Ysgol Maes Garmon in Mold

Leadership Skills
Visionary Thinking
Community Engagement
Strategic Planning
Change Management
Self-Evaluation
High Standards of Teaching