DescriptionEmployerLocation
Mae llywodraethwyr Ysgol Maes Garmon yn awyddus i benodi ymarferydd cydwybodol ac egnïol i fod yn aelod o dîm blaengar athrawon Adran y Gymraeg (dros gyfnod mamolaeth o Chwefror 2027 am flwyddyn).
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gymwys i addysgu Cymraeg i’r amrediad gallu llawn yng nghyfnodau allweddol 3 a 4 (gyda phosibilrwydd CA5 i ymgeisydd addas). Bydd cyfle hefyd i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at y cynllun Trochi ffyniannus ym Maes Garmon yn ogystal ag ymgymryd â gweithgareddau allgyrsiol. Rydym yn chwilio am ymarferydd hyderus a chreadigol i gyfrannu at faes allweddol o fewn yr ysgol mewn cyfnod o ddatblygiadau cyffrous.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
· Llawn cymhelliant a brwdfrydedd
· Gallu ysgogi ac ysbrydoli
· Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o’r maes
· Gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm
· Dangos parodrwydd i wrando ar gyngor a datblygu sgiliau
· Cyfrannu syniadau wrth i’r Adran ddatblygu
· Rhoi strategaethau amrywiol ar waith i sicrhau cynnydd ar lawr dosbarth
· Meddu ar ddisgwyliadau uchel
· Cynllunio’n effeithiol
· Gallu wynebu heriau gydag agwedd gadarnhaol
Os ydych am ymuno â chriw cyfeillgar a gweithgar o athrawon ac yn dymuno cael gwybodaeth bellach, mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth, Mrs Bronwen Hughes am sgwrs anffurfiol.
Telerau'r swydd:
Llawn amser dros gyfnod mamolaeth aelod o'r adran
Dyddiad cau : Dydd Mercher 2il o Ragfyr 2026 am 10:00yb
Dyddiad cychwyn: Dydd Llun 15fed o Chwefror 2027, neu mor fuan a hynny wedi hynny
Mae'r penodiad yn amodol ar Ddatgeliad Gwasanaeth Datgelu ac Atal a geirdaon boddhaol.
Safeguarding Statement
Ysgol Maes Garmon is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Athro Cymraeg (Mamolaeth) in Mold employer: Ysgol Maes Garmon
Ysgol Maes Garmon is an excellent employer, offering a supportive and inclusive work environment dedicated to the welfare of students with communication difficulties. With a strong commitment to professional development and a focus on Welsh-medium education, employees can expect meaningful growth opportunities while contributing to a vital resource in the community. Located in Sir Y Fflint, the school fosters a collaborative culture that values diversity and encourages all staff to share in its mission of safeguarding and promoting the well-being of all learners.