Cynorthwy-ydd Addysgu (Lefel 3) (Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James) in Pontypridd

Cynorthwy-ydd Addysgu (Lefel 3) (Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James) in Pontypridd

Pontypridd Full-Time 30600 - 37400 £ / year (est.) On-site
Y

At a Glance

  • Tasks: Support teachers and help students thrive in a vibrant learning environment.
  • Company: Welcoming Welsh-medium primary school focused on student welfare.
  • Benefits: Competitive salary, supportive team, and opportunities for professional growth.
  • Other info: Join a diverse team committed to safeguarding and promoting well-being.
  • Why this job: Make a real difference in children's lives while working in a fun, inclusive setting.
  • Qualifications: Good communication skills in Welsh and a passion for helping children.

The predicted salary is between 30600 - 37400 £ per year.

  • Description Supporting documents Employer Location
  • YSGOL GYNRADD GYMRAEG EVAN JAMES
  • Nifer y disgyblion sydd wedi'u cofrestru: 323
  • Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 3

Parhaol – 28.75 awr yr wythnos – yn ystod tymhorau’r ysgol yn unig – Gradd 6 - £29,071 X 68.25%

  • Dyddiad cau: Dydd Iau, 3 Rhagfyr 2026, am hanner nos 12yb
  • Dyddiad dechrau: 4 Ionawr 2027

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James yn dymuno penodi Cynorthwyydd Addysgu i ymuno â'n tîm presennol.

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James yn awyddus i benodi unigolyn cyfeillgar, cydwybodol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol da ac yn gallu sefydlu perthynas gadarnhaol wrth weithio gyda phlant, athrawon a rhieni.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n hyderus yn y Gymraeg yn hanfodol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

●Cefnogi dysgu ac addysgu: Cynorthwyo athrawon i gyflwyno gweithgareddau dysgu a chefnogi disgyblion unigol a grwpiau bach i ddatblygu eu sgiliau a'u dealltwriaeth.

  • Cefnogi anghenion unigol disgyblion: Darparu cymorth ychwanegol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gan addasu gweithgareddau i sicrhau bod pob plentyn yn gallu cymryd rhan a gwneud cynnydd.
  • Rheoli ymddygiad a lles: Hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol, meithrin perthynas dda gyda disgyblion a sicrhau amgylchedd dysgu diogel, hapus a chynhwysol.
  • Paratoi a threfnu adnoddau: Paratoi deunyddiau ac adnoddau dysgu, goruchwylio disgyblion a chydweithio'n effeithiol ag athrawon a staff eraill i sicrhau bod y dosbarth yn rhedeg yn llyfn.
  • Y sgiliau sydd eu hangen
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da: Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac yn sensitif gyda phlant, rhieni, athrawon a chydweithwyr.
  • Amynedd a dealltwriaeth: Y gallu i gefnogi plant o wahanol alluoedd ac anghenion, gan ddangos empathi, caredigrwydd ac agwedd gadarnhaol.
  • Sgiliau trefnu a gweithio fel rhan o dîm: Y gallu i reoli amser yn effeithiol, paratoi adnoddau a chydweithio'n agos ag athrawon a staff eraill.
  • Menter a hyblygrwydd: Y gallu i weithio'n annibynnol pan fo angen, defnyddio menter, addasu i sefyllfaoedd gwahanol a hyrwyddo amgylchedd dysgu diogel a chadarnhaol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos (12am) ar Dydd Iau, 3 Rhagfyr 2026.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR.

YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu.

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth.

Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol.

Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma.

Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Safeguarding Statement

Ysgol G.

Evan James is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.

We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.

Cynorthwy-ydd Addysgu (Lefel 3) (Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James) in Pontypridd employer: Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James

Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James is committed to fostering a supportive and collaborative work environment. The school values interpersonal skills and encourages staff to build positive relationships with students, teachers, and parents. Opportunities for professional development are available, particularly for those who can communicate confidently in Welsh.

Y

Contact Details:

Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James Recruitment Team

We think you need these skills to ace Cynorthwy-ydd Addysgu (Lefel 3) (Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James) in Pontypridd

Communication Skills
Interpersonal Skills
Patience
Empathy
Organisational Skills
Teamwork
Flexibility