Athro/Athrawes Prif Raddfa & TLR Arwein Dysgu Ac Addysgu in Pentre

Athro/Athrawes Prif Raddfa & TLR Arwein Dysgu Ac Addysgu in Pentre

Pentre Full-Time On-site
Y

DescriptionSupporting documentsEmployerLocation

YSGOL GYNRADD GYMRAEG BODRINGALLT

ATHRO / ATHRAWES PRIF RADDFA & TLR ARWAIN DYSGU AC ADDYSGU

I ddechrau Ionawr, 2027 neu cyn gynted a phosibl

Graddfa Gyflog Athrawon + TLR £3,590

Mae'r Pennaeth ac Llywodraethwyr yn dymuno penodi Athro / Athrawes ac arweinydd brwdfrydig, arloesol ac ysbrydoledig sy'n ymarferydd rhagorol ac sy'n ymroddedig i ddatblygu addysgu a dysgu o'r ansawdd uchaf.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu;

  • Darparu syniadau clir, ysbrydoledig ar gyfer codi safonau addysgol ym mhob adran o'r ysgol.
  • Meddu ar y weledigaeth ar gyfer datblygiad pellach i gyflawni perfformiad cyson uchel.
  • Meddu ar sgiliau arwain, rheoli, cyfathrebu a phersonol rhagorol.
  • Meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth i arwain a datblygu’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Meddu ar y gallu i hyrwyddo gwaith tîm effeithiol.
  • Hyrwyddo gwerthoedd sy'n cynnal ysgol ddisgybledig, drefnus gydag ethos gofalgar.
  • Meddu ar y gallu i adeiladu ar y cysylltiadau da iawn sydd wedi’u sefydlu gyda’n teuluoedd, ysgolion cyfagos ac asiantaethau cynorthwyol.
  • Deall bod ein llwyddiant yn dibynnu ar gyd-barch a chydweithio gyda chymuned yr ysgol gyfan.
  • Yn gyfnewid am hyn bydd y Llywodraethwyr yn cefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus ym mhob agwedd o fywyd ysgol; a thrwy hynny greu arfer o ddysgu a datblygu effeithiol ar draws yr ysgol a'i chymuned.

    Lleolir YGG Bodringallt ym mhentref Pentre, Rhondda. Ymfalchiwn yn ein naws gartrefol, ein safle pwrpasol ac effeithiol a’n ymroddiad at ddarparu cwricwlwm eang i’n disgyblion. Anelwn bod pob plentyn yn cyrraedd eu potensial, gyda’r darpariaeth i ddatblygu sgiliau sylfaenol da yn graidd i hyn.

    Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am y swydd, ffoniwch Neil Pike, Pennaeth.

    Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos (12am) ar 23/10/2026

    I ddechrau Ionawr, 2027

    MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

    Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

    Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

    Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

    Safeguarding Statement

    Ysgol G.G. Bodringallt is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.

    Y

    Contact Details:

    Ysgol Gynradd Gymraeg Bodringallt Recruitment Team