Swyddog Ymgysylltiad a Lles Bro Dur in Swansea

Swyddog Ymgysylltiad a Lles Bro Dur in Swansea

Swansea Full-Time 28608 - 32046 £ / year (est.) On-site
Y

At a Glance

  • Tasks: Support young people in their learning journey and help them thrive.
  • Company: Ysgol Gymraeg Bro Dur, a vibrant school dedicated to student welfare.
  • Benefits: Competitive salary, supportive team environment, and opportunities for personal growth.
  • Other info: Join a dynamic team with a clear vision for every child's success.
  • Why this job: Make a real difference in the lives of young learners and help them succeed.
  • Qualifications: Passion for supporting youth and strong communication skills.

The predicted salary is between 28608 - 32046 £ per year.

Description Supporting documents Employer Location Swydd ar safle Bro Dur ym Mhort Talbot yw hon.

  • Cyflog: Gradd 5, SCP 10 i 17 £28,608 - £32,046 (cyflog llawn amser)
  • Oriau: 30 awr yr wythnos dros 39 wythnos y flwyddyn, (£20,040 - £22,448)
  • Cyfle Cyffrous i Wneud Gwahaniaeth Go Iawn ym Mywydau Pobl Ifanc

Mae Ysgol Gymraeg Bro Dur yn chwilio am unigolyn egnïol, ymroddedig ac angerddol i ymuno â'n tîm fel Swyddog Ymgysylltiad a Lles.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r ysgol wedi buddsoddi'n sylweddol mewn staffio, adnoddau a darpariaeth er mwyn sicrhau'r gefnogaeth orau bosibl i'n disgyblion.

O ganlyniad, mae gennym bellach dîm cadarn, brwdfrydig a thalentog sy'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod pob dysgwr yn llwyddo.

Mae'r swydd hon yn gyfle unigryw i fod yn rhan o'r daith honno.

Y Rôl

Bydd y Swyddog Ymgysylltiad a Lles yn gweithio'n agos gyda'r Swyddog Cynnydd, yr Adran ADY a staff addysgu i gefnogi disgyblion sydd mewn perygl o ymddieithrio o'u dysgu neu nad ydynt yn cyrraedd eu potensial.

Bydd y rôl yn canolbwyntio ar

  • Sicrhau lefelau uchel o ymgysylltiad mewn gwersi ac o amgylch yr ysgol.
  • Datblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion sy'n wynebu heriau o ran dysgu, ymddygiad, presenoldeb neu les.
  • Darparu cymorth targedig i ddisgyblion y mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt.
  • Gweithio ochr yn ochr â staff addysgu i ddileu rhwystrau i ddysgu.
  • Cyflawni gwaith anogwr dysgu gyda disgyblion unigol neu grwpiau bach.
  • Monitro cynnydd ac ymgysylltiad disgyblion a chyfrannu at gynlluniau cefnogi.
  • Cydweithio â rhieni, asiantaethau allanol a gwasanaethau cymorth lle bo angen.

Rydym yn Chwilio am Rywun Sydd

  • Yn angerddol am gefnogi pobl ifanc.
  • Yn gallu adeiladu perthnasoedd proffesiynol cryf a chefnogol.
  • Yn wydn, yn bositif ac yn gallu gweithredu'n dawel mewn sefyllfaoedd heriol.
  • Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
  • Yn gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm amlbroffesiynol.
  • Yn meddu ar ddisgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr.
  • Yn ymrwymedig i sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfle i lwyddo.

Beth Sy'n Gwneud y Swydd Hon yn Arbennig?

Byddwch yn ymuno â thîm sydd â gweledigaeth glir ac uchelgeisiol ar gyfer pob plentyn.

Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod rhai o'n dysgwyr mwyaf agored i niwed yn teimlo eu bod yn perthyn, yn ymgysylltu â'u haddysg ac yn cyflawni eu potensial.

Os ydych yn credu mewn newid bywydau trwy gefnogaeth, her briodol a pherthnasoedd cadarnhaol, hoffem glywed gennych.

Ymunwch â ni i sicrhau bod pob dysgwr yn: Mynychu. Ymgysylltu. Llwyddo. Ffynnu.

Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Laurel Davies.

Proses Ymgeisio

Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy lythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd yn ogystal â’r ffurflen gais atodedig.

Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol newydd hon.

Mae’r swydd hon yn ddibynnol ar wiriad diogelu trylwyr.

  • Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Llun, Tachwedd 16eg 2026
  • Dyddiad dechrau y swydd: Cyn gynted â phosib
  • Safeguarding Statement

Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc a disgwylir i'w holl staff gefnogi’r ymrwymiad creiddiol hwn.

Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.

We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.

Swyddog Ymgysylltiad a Lles Bro Dur in Swansea employer: Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur

Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur is an exceptional employer that fosters a collaborative and innovative work culture, making it an ideal place for a Digital Systems Manager. With a strong commitment to employee development, you will have access to ongoing training opportunities and the chance to make a meaningful impact on the digital landscape of our campuses. Located in a vibrant community, we offer a supportive environment where your contributions are valued and recognised.

Y

Contact Details:

Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur Recruitment Team

We think you need these skills to ace Swyddog Ymgysylltiad a Lles Bro Dur in Swansea

Engagement Skills
Relationship Building
Support Provision
Monitoring Progress
Communication Skills
Interpersonal Skills
Teamwork