At a Glance
- Tasks: Support young learners in a warm and welcoming school environment.
- Company: Ysgol Gymraeg Sant Baruc, a friendly and caring Welsh school.
- Benefits: Competitive salary, supportive team, and a chance to make a difference.
- Other info: Opportunity for personal growth in a nurturing community.
- Why this job: Join a passionate team and help shape children's early school experiences.
- Qualifications: Fluent Welsh speaker with a love for working with young children.
The predicted salary is between 27540 - 33660 £ per year.
32.5 awr yr wythnos | 39 wythnos y flwyddyn
Graddfa 5 – Band Cyflog 8–12 (pro rata)
Dyddiad dechrau: 4 Ionawr 2027
Contract: contract am 2 dymor i ddechrau
Nifer y disgyblion: 383 (3–11 oed)
Mae Ysgol Gymraeg Sant Baruc yn chwilio am Gynorthwyydd Cefnogi Dysgu cyfeillgar, gofalgar a brwdfrydig i ymuno â'n tîm yn y Feithrin o fis Ionawr 2027. Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno ag ysgol Gymraeg gynnes a chyfeillgar sy'n rhoi hapusrwydd, lles a dysgu pob plentyn wrth galon popeth a wnawn.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n mwynhau gweithio gyda phlant ifanc, sy'n amyneddgar ac yn ofalgar, ac sy'n awyddus i helpu plant i wneud y gorau o'u profiadau cyntaf yn yr ysgol. Byddwch yn helpu i greu amgylchedd hapus, diogel a chroesawgar lle gall plant chwarae, dysgu, datblygu eu sgiliau a magu hyder. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'n staff i gefnogi'r plant yn eu gweithgareddau a'u helpu i fwynhau eu diwrnod yn yr ysgol.
Yn Sant Baruc, rydym yn falch o'n cymuned ysgol ofalgar a'n tîm cefnogol. Byddwch yn cael croeso cynnes ac yn rhan o dîm sy'n gweithio gyda'i gilydd i roi'r dechrau gorau posibl i'n plant. Mae'n hanfodol eich bod yn gallu siarad, ysgrifennu a chyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg.
Suti wneud cais
Os ydych yn mwynhau gweithio gyda phlant ifanc ac yn chwilio am gyfle i fod yn rhan o ysgol gyfeillgar a chefnogol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Dyddiad cau: 30 Tachwedd 2026
Cyfweliadau: 7 Rhagfyr 2026
Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Datganiad Diogelu
Mae Ysgol Gymraeg Sant Baruc yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
CYNORTHWYYDD CEFNOGI DYSGU in Barry employer: Ysgol Gymraeg Sant Baruc
Ysgol Gymraeg Sant Baruc is a warm and friendly Welsh-medium school that prioritizes the happiness, well-being, and learning of every child. The school seeks enthusiastic and caring individuals who enjoy working with young children and are eager to support their early educational experiences. This role offers the opportunity to create a safe and welcoming environment where children can play, learn, and develop confidence.