At a Glance
- Tasks: Support children's learning and help them reach their full potential.
- Company: Welcoming and innovative Welsh school with a strong community spirit.
- Benefits: Positive work environment, excellent support, and opportunities for personal growth.
- Other info: Join us in a thriving school community focused on happiness and success.
- Why this job: Make a real difference in children's lives while working in a dynamic team.
- Qualifications: Fluency in Welsh and a passion for supporting children's education.
The predicted salary is between 32000 - 32000 £ per year.
Ysgol Gymraeg Sant Baruc yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr brwdfrydig, ymroddedig a chydwybodol ar gyfer swydd Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu amser llawn, i ddechrau ym mis Medi 2026. Mae hwn yn gyfle arbennig i ymuno ag ysgol Gymraeg ffyniannus, gyfeillgar a blaengar sydd wedi symud yn ddiweddar i gampws newydd.
Wrth i'r ysgol barhau i dyfu a datblygu, dyma gyfnod hynod gyffrous i ddod yn rhan o gymuned ysgol sy'n rhoi lles, hapusrwydd a llwyddiant pob plentyn wrth galon popeth a wnawn. Yn Ysgol Gymraeg Sant Baruc, rydym yn falch o feithrin cymuned gynnes, ofalgar ac uchelgeisiol lle mae plant a staff yn cael eu hannog i ffynnu, cydweithio a llwyddo.
Rydym yn chwilio am unigolyn gweithgar ac ymroddedig sydd ag angerdd dros gefnogi plant i gyflawni eu potensial. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda thîm o staff talentog, deinamig ac arloesol i greu profiadau dysgu o'r safon uchaf a sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n disgyblion.
Mae Ysgol Gymraeg Sant Baruc yn ymfalchïo mewn darparu amgylchedd gwaith cadarnhaol a chydweithredol. Bydd y Pennaeth, y staff a'r Corff Llywodraethu yn darparu cefnogaeth ragorol i'ch helpu i ddatblygu a llwyddo yn y rôl. Mae'r gallu i siarad, ysgrifennu a chyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Sut i wneud cais
Os ydych yn awyddus i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant ac yn barod am her newydd gyffrous, hoffem glywed gennych. Cwblhewch y ffurflen gais a'i dychwelyd at y Pennaeth, Mrs Rhian Andrew, erbyn y dyddiad cau. Am ragor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth.
Dyddiad cau: 22 Mehefin 2026
Cyfweliadau: 26 Mehefin 2026
Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Datganiad Diogelu
Mae Ysgol Gymraeg Sant Baruc yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
CYNORTHWYYDD CEFNOGI DYSGU in Barry employer: Ysgol Gymraeg Sant Baruc
Ysgol Gymraeg Sant Baruc is an exceptional employer, offering a supportive and collaborative work environment where staff are encouraged to thrive and succeed. With a strong commitment to the well-being and happiness of every child, the school fosters a warm and ambitious community, providing excellent opportunities for professional development and growth. Located in a newly established campus, this is an exciting time to join a dynamic team dedicated to delivering high-quality learning experiences.