Athro Dosbarth ac Arweinydd Cam Cynnydd 1 in Newport

Athro Dosbarth ac Arweinydd Cam Cynnydd 1 in Newport

Newport Full-Time On-site
Y

DisgrifiadDogfennau atodolCyflogwrLleoliad

Pedwaredd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg Casnewydd, a’r ysgol Cymraeg ddiweddaraf, yw Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli. Agorwyd yr ysgol ym mis Medi 2021 ar ei safle dros dro yng Nghaerllion. Erbyn hyn, mae’r ysgol wedi symud i’w safle parhaol yng nghanol dinas Casnewydd, yn ardal Pillgwenlli, ym mis Ebrill 2025. Mae’r swydd hon yn gyfle unigryw i gyfrannu at ddatblygiad parhaus yr ysgol wrth i’r niferoedd gynyddu’n raddol, ac yn gyfle rhagorol i chi i fod yn rhan o’r ysgol yn ystod cyfnod cyffrous o dwf.

Agorodd yr ysgol yn wreiddiol fel ysgol egin, ond wrth iddi dyfu i’w photensial – sef mynediad dwyffurf llawn – hi fydd yr ysgol gynradd Gymraeg fwyaf yng Nghasnewydd. Mae’r ysgol hefyd yn gartref i Ganolfan Adnoddau Dysgu (LRB) cyfrwng Cymraeg gyntaf y ddinas, yn ogystal ag Ganolfan Drochi Gymraeg ar gyfer dysgwyr sy’n ymuno ag addysg Gymraeg yn ddiweddarach.

Mae Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli yn ysgol groesawgar sy’n hyrwyddo ymdeimlad cryf o berthyn trwy adeiladu perthnasoedd cadarnhaol â’r gymuned gyfan. Mae’r corff llywodraethu’n ymrwymedig i feithrin disgyblion uchelgeisiol a galluog sy’n cyrraedd eu llawn botensial ym mhob agwedd ar y cwricwlwm, drwy ddarparu profiadau dysgu gwirioneddol, pwrpasol ac uchelgeisiol. Rydym yn chwilio am athro ddosbarth rhagorol sydd yn angerddol a threfnus, a all sicrhau bod y dysgwr yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu potensial ac i ffynnu o fewn ein hysgol gynhwysol a gofalgar.

Mae Corff Llywodraethol yr ysgol yn awyddus i benodi athro neu athrawes ddosbarth rhagorol, egniol a brwdfrydig i ymgymryd â’r rôl yma ym mis Ionawr 2027.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel athro/athrawes yn y Feithrin, fel man cychwyn, ac yn cydweithio’n agos â’r holl staff i ddarparu amgylchedd dysgu ysgogol a phrofiadau cyffrous i’r plant. Bydd gennych gyfrifoldeb dros Gam Cynnydd 1, gan chwarae rhan allweddol wrth gefnogi datblygiad parhaus yr ysgol a’i chyfeiriad strategol.

Manylion y Cytundeb - Cytundeb parhaol, llawn amser

Am sgwrs anffurfiol neu i drefnu ymweliad â’r ysgol, cysylltwch â: Marc James.

Sylwch: Mae’r swydd hon wedi’i heithrio o Ddeddf Adfer Troseddwyr (1974) ac mae’n amodol ar wiriad DBS.

Dyddiad Cau : Hydref 16eg, 2026

Datganiad Diogelu

Mae Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.

Y

Contact Details:

Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli Recruitment Team