ATHRO/ATHRAWES in Holywell

ATHRO/ATHRAWES in Holywell

Holywell Full-Time 27540 - 33660 £ / year (est.) On-site
Y

At a Glance

  • Tasks: Inspire and challenge students to reach their full potential in a supportive environment.
  • Company: Welcoming Welsh-medium school with a strong community spirit.
  • Benefits: Happy learners, supportive staff, and ongoing professional development opportunities.
  • Other info: Applications welcome for Foundation Phase or Key Stage 2 positions.
  • Why this job: Join us to shape the future of a thriving Welsh school.
  • Qualifications: Qualified Teacher Status and fluent Welsh required.

The predicted salary is between 27540 - 33660 £ per year.

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gymraeg Mornant yn gwahodd ceisiadau gan athrawon ac athrawesau profiadol, ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â’n tîm mewn un o ddwy swydd addysgu, naill ai yn y Cyfnod Sylfaen neu yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae Ysgol Gymraeg Mornant yn ysgol Gymraeg wledig fechan gyda chymuned gynnes, gefnogol a chroesawgar.

Ein gweledigaeth yw: “Dysgu a Blodeuo drwy’r Gymraeg” “Gyda’n gilydd, rydym yn meithrin dysgwyr hapus, hyderus ac uchelgeisiol sy’n ymfalchïo yn eu Cymreictod ac yn cyflawni eu potensial llawn.”

Rydym yn chwilio am ymarferwyr rhagorol sydd yn:

  • Meddu ar safonau uchel o addysgu a dysgu.
  • Ysbrydoli a herio pob plentyn i gyflawni ei botensial.
  • Hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn naturiol ym mywyd yr ysgol.
  • Creu amgylchedd cynhwysol, cefnogol a meithringar.
  • Meddu ar brofiad o gefnogi dysgwyr niwrowahanol.
  • Adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion, teuluoedd a chydweithwyr.
  • Gweithio'n effeithiol fel aelod o dîm ymroddedig.
  • Gallu chwarae’r piano a chyfrannu at fywyd cerddorol yr ysgol.

Gofynion Hanfodol

  • Statws Athro Cymwysedig (QTS)
  • Cymraeg rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Profiad llwyddiannus yn y Cyfnod Sylfaen neu Gyfnod Allweddol 2
  • Dealltwriaeth gadarn o’r Cwricwlwm i Gymru
  • Ymrwymiad i les, cynhwysiant a chynnydd pob dysgwr

Rydym yn Cynnig

  • Disgyblion hapus ac awyddus i ddysgu.
  • Tîm staff cefnogol a chydweithredol.
  • Cymuned ysgol gref ac ymrwymedig.
  • Cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Cyfle i gyfrannu at ddyfodol ysgol Gymraeg ffyniannus.

Croesewir ceisiadau ar gyfer y Cyfnod Sylfaen neu Gyfnod Allweddol 2. Dylai ymgeiswyr nodi eu dewis yn eu cais.

Dyddiad Cau: Dydd Llun Tachwedd 23ain

Cyfweliadau: Dydd Mawrth Rhagfyr 1af

DIOGELU

Mae Ysgol Gymraeg Mornant wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Bydd y penodiad yn amodol ar wiriadau recriwtio boddhaol, gan gynnwys gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Datganiad Diogelu

Mae Ysgol Gymraeg Mornant C.P. yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.

ATHRO/ATHRAWES in Holywell employer: Ysgol Gymraeg Mornant C.P.

Ysgol Gymraeg Mornant C.P. offers a nurturing work environment where educators can thrive and make a significant impact on students' lives. The school's commitment to high teaching standards and the promotion of Welsh culture creates a unique and fulfilling workplace. Teachers are encouraged to inspire and challenge students, contributing to their overall development and success.

Y

Contact Details:

Ysgol Gymraeg Mornant C.P. Recruitment Team

We think you need these skills to ace ATHRO/ATHRAWES in Holywell

Communication Skills
Problem-Solving Skills
Compassion
Flexibility
Organizational Skills
Teamwork
Adaptability