At a Glance
- Tasks: Support students across the curriculum and provide tailored learning experiences.
- Company: Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, a modern school in Barry.
- Benefits: Competitive salary, full-time hours, and ongoing training opportunities.
- Other info: Flexible working options available; join a supportive team dedicated to student welfare.
- Why this job: Make a real difference in students' lives every day in a dynamic environment.
- Qualifications: Good education, communication skills, and a positive attitude are essential.
The predicted salary is between 26580 - 32486 £ per year.
Hysbyseb Cynorthwyydd Dosbarth – Ysgol Isaf
Tachwedd 2026
- Swydd: Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 3
- Pwynt/ Graddfa Cyflog: Gradd 5 SCP 8-12 (£27,709-£29,542 pro rata)
- Cytundeb: Parhaol
- Oriau: Llawn Amser (32.5 awr yr wythnos / 39 wythnos y flwyddyn)
- Hysbyseb: 17eg o Dachwedd 2026
- Dyddiad Cau: 26ain o Dachwedd 2026 – 9yb
- Swydd i ddechrau: 4ydd o Ionawr 2027 (neu cyn gynted â phosib)
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg. Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol.
Os ydych yn chwilio am gyfle i weithio mewn rôl lle mae pob diwrnod yn hollol wahanol gall hon fod y swydd i chi! Mae gennym gyfle i unigolyn talentog, ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu. Mae hyn yn rhan o ymgyrch recriwtio felly sicrhewch eich bod yn cyflwyno eich cais cyn gynted ag sydd bosib fel nad ydych yn colli’r cyfle!
Yn y rôl yma byddwch yn gweithio i gefnogi disgyblion ar draws holl gwricwlwm yr ysgol yn hytrach na mewn un adran benodol. Wrth gyd-weithio gydag athrawon, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu profiad dysgu arbennig i’n disgyblion sydd â anawsterau dysgu a/neu anableddau. Dyma gyfle cyffrous i gynnig cefnogaeth yn y dosbarth, ac mewn rhai amgylchiadau tu allan i’r dosbarth, i ddysgwyr gydag amrywiaeth o anghenion dysgu.
Bydd natur y gefnogaeth yn amrywio o gefnogi grwpiau bach i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd i gefnogi disgyblion gydag anghenion cymhleth sydd angen cefnogaeth un i un. Mae’r gallu i ddangos empathi tuag at ddisgyblion sydd ag anawsterau cyfathrebu a sgiliau cymdeithasol yn hanfodol. Yn ddelfrydol bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth ac ymwybyddiaeth o amrywiaeth o ddulliau i gefnogi disgyblion. Fodd bynnag, darperir hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer datblygu’r sgiliau hyn.
Bydd gan y person agwedd bositif a phenderfynol. Byddant yn hyblyg wrth weithio gyda gwahanol ddisgyblion a staff, yn barod am sialensiau newydd ac yn dangos yr ysfa i ddatblygu’n bersonol. Dylai ymgeiswyr feddu ar addysg o safon dda, blaengaredd a’r gallu i gyfathrebu’n dda gyda staff dysgu a disgyblion. Byddwn yn ystyried ceisiadau i weithio naill a’i llawn amser (32.5 awr) neu’n rhan amser. Nodwch y nifer o oriau yr ydych am weithio yn eich datganiad ategol os gwelwch yn dda.
Os hoffech fwy o fanylion neu sgwrs bellach am y cyfle euraidd yma, cysylltwch â Emily Denham yn y man cyntaf drwy ffonio'r ysgol neu ebostio - gweler manylion ymgeisio ar gyfer cyfeiriad e-bost.
Datganiad Diogelu: Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac mae disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Cynorthwyydd Dosbarth L3 - Ysgol Isaf in Barry employer: Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg offers a dynamic work environment where each day presents new challenges and opportunities. The school has modern facilities that support teaching through the medium of Welsh, preparing students for future success. Employees can expect a supportive atmosphere focused on professional development and growth.
Contact Details:
Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg Recruitment Team