DescriptionEmployerLocation
Hysbyseb
Athro Cemeg
Hydref 2026
Swydd: Athro Cemeg
Pwynt/ Graddfa Cyflog: M2 - UPS3
Cytundeb: Parhaol
Oriau: Llawn amser
H ysbyseb: Hydref 5ed 2026
Dyddiad Cau: Hydref 16eg (9yb)
Swydd i ddechrau: Ionawr 2027
Dewch i ymweld!
Cysylltwch â Emily Denham os hoffech fwy o wybodaeth neu sgwrs gyda’r Pennaeth drwy ffonio'r ysgol neu ebostio - gweler manylion ymgeisio ar gyfer cyfeiriad e-bost.
Mae'r Llywodraethwyr am benodi unigolyn cymwys a thalentog i ymuno â staff Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn ysgol bob oed wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg. Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol.
Edrychwn am athro rhagorol, sydd yn dangos angerdd tuag at y pwnc a chyrhaeddiad ein disgyblion. Arwyddair yr ysgol yw ‘Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd’. Ein bwriad yw i adeiladu yn bellach ar lwyddiannau yr ysgol hyd yma ac i sicrhau fod pawb sy’n dysgu ac yn gweithio yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn derbyn y cyfleoedd gorau i gyrraedd pen eu mynydd personol.
Mae'r adran Wyddoniaeth yn un llwyddiannus sydd yn mynnu’r safonau uchaf o bob disgybl ac yn herio pob unigolyn i lwyddo yn y gwersi a thu hwnt. Mae canran uchel yn astudio’r tair gwyddor ar wahân a nifer yn dilyn y cwrs Gwyddoniaeth Ddwyradd a’r cwrs Gwyddoniaeth Gymhwysol Ddwyradd. Mae’r pwnc yn hynod boblogaidd fel opsiwn yn y chweched dosbarth ac yn denu niferoedd uchel i’r cyrsiau Safon Uwch. Rydym wedi ymestyn ein darpariaeth dros y blynyddoedd diweddar i gynnig Peirianneg a Gwyddorau Meddygol fel opsiynau i gyd-fynd â Bioleg, Cemeg a Ffiseg. Mae’r gallu i a’r profiad o ddysgu Cemeg hyd at Safon Uwch yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae deg athro a dau dechnegydd yn yr adran. Rydym yn cynllunio gwersi rhyngweithiol sy’n annog chwilfrydedd a diddordeb yn y pwnc, gyda phob aelod yn rhannu eu hadnoddau dysgu er mwyn cynnal safonau uchel yr adran. Cynigir ystod o weithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys teithiau i
Techniquest, yr Amgueddfa Genedlaethol, a nifer o gystadlaethau gyda’r RSC a Phrifysgol Caerdydd. Addysgir y gwersi mewn wyth labordy pwrpasol gyda bwrdd gwyn rhyngweithiol ym mhob ystafell.
Os hoffech fwy o fanylion neu sgwrs bellach ynglyn â’r cyfle euraidd yma, cysylltwch â Emily Denham yn y man cyntaf drwy ffonio'r ysgol neu ebostio - gweler manylion ymgeisio am gyfeiriad e-bost.
Datganiad Diogelu
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac mae disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Rhys Angell Jones
Hydref 2026
Safeguarding Statement
Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Contact Details:
Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg Recruitment Team