DescriptionSupporting documentsEmployerLocation
Swydd: Rheolwr Busnes Ysgol
Gweinyddiaeth & Threfniadaeth: Gradd 10 (37awr; 52wythnos)
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi Rheolwr Busnes yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Dyma gyfle unigryw i ymuno ag ysgol lwyddiannus iawn o fewn ein Prifddinas sydd ag enw da o fewn ei chymuned ac sy’n gyson ei darpariaeth safonol cyfrwng Cymraeg i blant a phobl ifanc y dalgylch. Mae hon yn gyfle arbennig i ymuno a grŵp o staff brwdfrydig ac egnïol a gyda thîm gweinyddol ardderchog sy’n gweithio’n galed i sicrhau’r gefnogaeth orau i holl ddisgyblion a chymuned yr ysgol.
Mae’r ysgol wedi profi llwyddiant cadarn dros y blynyddoedd diweddar wrth sicrhau cynnydd mewn incwm yn sgil twf ym mhoblogaeth yr ysgol yn ogystal a gafael gadarn a thryloyw o faterion cyllidebol. Mae hyn wedi golygu rhaglen dda o fuddsoddiad yn yr ysgol er mwyn ymestyn a gwella ein darpariaeth. Rhan allweddol o’r gwaith yma yw’r cydlyniant llewyrchus rhwng arweinyddiaeth yr ysgol wedi’i chefnogi gan dim gweinyddol effeithiol a rheolaeth gadarn ein cynllun busnes. Yn sgil penodiad llwyddianus ein Rheolwr Busnes presennol i swydd newydd, edrychwn am unigolyn brwdfrydig a phrofiadol i ymgymryd a’r dyletswyddau ac i arwain ein tim gweinyddol.
Rydym felly yn hysbysebu am arbenigwr/wraig mewn materion cyllid a rheolaeth ariannol er mwyn rheoli’r gyllideb a’r gyflogres yn effeithiol dros y cyfnod nesaf. Yn ogystal, bydd arwain a rheoli dyddiol o dimau staff gweinyddol yr ysgol yn elfen allweddol o gyfrifoldebau’r ymgeisydd llwyddiannus. Byddwch yn arweinydd llinell ar Reolwr Swyddfa; Rheolwr Ystadau; Rheolwr Rhwydwaith a I&D ynghyd ag Arweinydd Gwasanaethau Arlwyo. Byddwch yn sicrhau cefnogaeth a dirprwyo cyfrifoldebau yn addas a chydlynus rhwng gwahanol dimau staff cefnogi yr ysgol. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Pennaeth Gweithredol a’r Pennaeth Ysgol mewn materion allwedol o arweinyddiaeth yr ysgol, drwy osod cyllideb, cefnogi staff gydag Adnoddau Dynol a drwy systemau recriwtio a staffio manwl gywir.
Mae hon yn rôl arwain benodol o fewn yr ysgol ac yn gofyn am weithio strategol a chlos gyda’r Pennaeth, y Tîm Arwain a’r Corff Llywodraethol a hynny er mwyn sicrhau gwerth am arian a gweinyddiaeth effeithiol. Byddwch yn gweithio’n agos ac yn derbyn cefnogaeth dda iawn gan Swyddogion Cyllid ac Adnoddau Dynol y sir, ac arbenigedd ym meysydd cyflogaeth a rheoli sefydliad. Yn hyn o beth, mae delio yn effeithiol a chadarnhaol gyda phartneriaid allweddol yn rhan bwysig o’r rôl.
Ar hyn o bryd mae cyfrifoldeb Clerc y Llywodraethwyr yn gyfrifoldeb i’r Rheolwr Busnes, a gellir ystyried ychwanegu’r cyfrifoldeb hwn, gyda’r gydnabyddiaeth berthnasol, i’r swydd pe dymunir.
Gan fod Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ymrwymedig i les a diogelwch pob plentyn, mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad manwl diogelu plant a dau eirda llwyddiannus. Mae’r gallu i weithio’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol ar gyfer y swydd hon. Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans yn yr ysgol.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd-destun cymuned yr ysgol.
Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Mercher, 9fed o Ragfyr 2026
Dyddiad dechrau’r swydd: 1 Chwefror 2027
Safeguarding Statement
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Rheolwr Busnes Ysgol in Cardiff employer: Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is an exceptional employer, offering a vibrant and inclusive work culture that prioritises the growth and development of its staff. With a strong commitment to supporting young people in their educational journey, employees benefit from extensive training opportunities and the chance to make a meaningful impact within the community. Located in a diverse area, the school fosters a collaborative environment where educators can thrive and contribute to a rich extracurricular life.
Contact Details:
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf Recruitment Team