Gwarchodwr Dosbarth in Swansea

Gwarchodwr Dosbarth in Swansea

Swansea Full-Time On-site
Y

DescriptionSupporting documentsEmployerLocation

Rydym yn chwilio am Warchodwr Dosbarth ysbrydoledig i ymumo â ni yn YGG Bryn Tawe.

Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal â sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.

Rydym yn gallu cynnig:

y cyfle i weithio gyda disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar.

y cyfle i weithio o fewn nifer o adrannau , sydd yn ymrwymedig i ddatblygu creadigrwydd addysgu a chydweithio’n agos er mwyn sicrhau llwyddiant pob disgybl o bob gallu.

y cyfle i weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol, proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion.

Dyddiad Cau: Dydd Iau 1af o Hydref y.h.

Cyfweliadau: I’w gadarnhau

Graddfa cyflog: I'w gadarnhau yn dibynnu ar brofiad

Safeguarding Statement

Within Swansea Council there is a "Safeguarding is Everybody's Business" principle, and this applies to all Swansea Council employees, elected members, volunteers and contractors. Further details can be found at

Y

Contact Details:

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe Recruitment Team