Goruchwyliwr Gwersi in Cardiff

Goruchwyliwr Gwersi in Cardiff

Cardiff Full-Time 29970 - 36483 £ / year (est.) No working from home possible
Y

At a Glance

  • Tasks: Supervise classes during teacher absences and support students in their learning.
  • Company: Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, a vibrant Welsh secondary school.
  • Benefits: Competitive salary, professional development, and a supportive work environment.
  • Other info: Opportunity for career growth and to work with young people.
  • Why this job: Make a real difference in students' lives while promoting the Welsh language.
  • Qualifications: GCSE education or equivalent, excellent communication skills, and basic IT skills.

The predicted salary is between 29970 - 36483 £ per year.

Disgrifiad Dogfennau atodol Cyflogwr Lleoliad Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’n tîm fel Goruchwyliwr Gwersi, ar gontract o 32.5 awr yr wythnos, yn ystod amser tymor yn unig.

Mae’r swydd ar Raddfa 5 (Pwyntiau 11–19 pro rata) ac yn rhoi cyfle gwerthfawr i weithio mewn ysgol uwchradd fywiog sy’n hyrwyddo’r Gymraeg a llwyddiant pob disgybl.

Prif ddiben y rôl yw goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb tymor byr athrawon.

Bydd y deiliad swydd yn sicrhau bod disgyblion yn parhau i ymgysylltu â gwaith a osodwyd, yn gweithio’n annibynnol ac mewn amgylchedd dysgu cadarnhaol.

Bydd hyn yn cynnwys gweithredu cynlluniau gwaith, rheoli ymddygiad yn effeithiol a chefnogi disgyblion yn eu dysgu yn unol â pholisïau’r ysgol.

Bydd y dyletswyddau’n cynnwys goruchwylio disgyblion, helpu i baratoi’r amgylchedd dysgu, casglu gwaith ar ddiwedd gwersi, a sicrhau bod presenoldeb yn cael ei gofnodi’n gywir.

Bydd disgwyl hefyd i’r unigolyn adrodd ar unrhyw faterion sy’n codi yn ystod y wers a chydymffurfio’n llawn â pholisïau’r ysgol, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud ag amddiffyn plant ac iechyd a diogelwch.

O bryd i’w gilydd, gall fod angen cynorthwyo gydag arholiadau neu dasgau gweinyddol, yn ogystal â chefnogi yn y dosbarth pan nad oes angen goruchwylio gwersi.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn drefnus, yn hyblyg ac yn gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.

Dylai’r ymgeisydd fod yn hyderus wrth weithio gyda phobl ifanc, yn ddibynadwy ac yn dangos menter wrth ddatrys problemau.

Mae cefnogi ethos Cymraeg yr ysgol yn hanfodol, ynghyd ag agwedd gadarnhaol a pharodrwydd i ddatblygu’n broffesiynol.

Mae addysg i lefel TGAU neu gyfwerth yn hanfodol, ynghyd â sgiliau TG sylfaenol.

Mae profiad o weithio gyda phobl ifanc yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus basio gwiriad DBS manwl, a disgwylir iddo/iddi fynychu diwrnodau HMS fel rhan o’r rôl.

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais, cysylltwch â’r ysgol.

Datganiad Diogelu

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn.

Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef.

Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.

Goruchwyliwr Gwersi in Cardiff employer: Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern is an exceptional employer, offering a vibrant work environment that champions the Welsh language and the success of every student. With a strong commitment to professional development and a culture of respect and inclusivity, employees are encouraged to grow and thrive while making a meaningful impact on young people's lives. Located in a supportive community, this role as a Goruchwyliwr Gwersi provides a unique opportunity to engage with students and contribute to their educational journey during term time.

Y

Contact Details:

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern Recruitment Team

We think you need these skills to ace Goruchwyliwr Gwersi in Cardiff

Communication Skills
Organisational Skills
Flexibility
Independence
Teamwork
Confidence in working with young people
Problem-Solving Skills