Athro / Athrawes Addysg Gorfforol in Cardiff

Athro / Athrawes Addysg Gorfforol in Cardiff

Cardiff Temporary 28080 - 34320 £ / year (est.) On-site
Y

At a Glance

  • Tasks: Inspire students through high-quality Physical Education teaching and support their personal growth.
  • Company: Join a supportive school dedicated to student well-being and achievement.
  • Benefits: Opportunity for career development and potential long-term employment.
  • Other info: Be part of a dynamic team committed to enriching academic and extracurricular life.
  • Why this job: Make a real impact on young lives through sports and education.
  • Qualifications: Passion for education and sports, with strong relationship-building skills.

The predicted salary is between 28080 - 34320 £ per year.

Disgrifiad Cyflogwr Lleoliad Mae’r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Addysg Gorfforol brwdfrydig ac ysbrydoledig i ymuno â’n hadran Addysg Gorfforol lwyddiannus o 15 Chwefror 2027.

Mae’r swydd hon ar sail dros dro tan 31 Awst 2027, gyda’r posibilrwydd o estyniad neu gyfnod cyflogaeth hirach.

Dyma gyfle gwych i ymuno ag ysgol gefnogol lle mae lles, cyflawniad a datblygiad pob disgybl wrth galon ein gweledigaeth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gyflwyno addysgu o safon uchel mewn Addysg Gorfforol, gan ysbrydoli disgyblion i ddatblygu eu sgiliau, eu hyder a’u mwynhad o weithgarwch corfforol, a chyfrannu at eu cynnydd academaidd a phersonol.

Wrth weithio ym Mro Edern, byddwch yn ymuno â thîm profiadol, cydweithredol ac ymroddedig sy’n ymfalchïo mewn darparu’r profiadau dysgu gorau i’n disgyblion.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar angerdd dros addysg a chwaraeon, ymrwymiad i safonau uchel, a’r gallu i greu perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion a chydweithwyr fel ei gilydd.

Byddwn yn edrych am unigolyn dynamig sy’n gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm, sydd â disgwyliadau uchel o ddisgyblion ac sy’n credu’n gryf yng ngrym addysg i drawsnewid bywydau pobl ifanc.

Bydd y gallu i gymell, cefnogi ac ysbrydoli disgyblion i gyflawni eu potensial yn hanfodol.

Edrychwn am unigolyn a fydd yn frwd i gyfrannu’n llawn at fywyd academaidd ac allgyrsiol cyfoethog yr ysgol, gan gynnwys cefnogi a datblygu cyfleoedd chwaraeon a chystadlaethau, a chwarae rhan weithredol yn natblygiad parhaus cymuned Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.

Mae’r ysgol yn arbennig o awyddus i glywed gan athrawon cymwysedig sydd ar gael i ddechrau ar 15 Chwefror 2027.

Datganiad Diogelu

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn.

Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef.

Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.

Athro / Athrawes Addysg Gorfforol in Cardiff employer: Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern is an exceptional employer, offering a vibrant work environment that champions the Welsh language and the success of every student. With a strong commitment to professional development and a culture of respect and inclusivity, employees are encouraged to grow and thrive while making a meaningful impact on young people's lives. Located in a supportive community, this role as a Goruchwyliwr Gwersi provides a unique opportunity to engage with students and contribute to their educational journey during term time.

Y

Contact Details:

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern Recruitment Team

We think you need these skills to ace Athro / Athrawes Addysg Gorfforol in Cardiff

Passion for Education
Inspiring Students
Physical Education Expertise
High Standards Commitment
Positive Relationship Building
Team Collaboration
Dynamic Teaching Approach