Cynorthwyydd Dysgu in Porth

Cynorthwyydd Dysgu in Porth

Porth Full-Time On-site
Y

DescriptionSupporting documentsEmployerLocation

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhondda yn awyddus i benodi cynorthwyydd addysgu brwdfrydig a dibynadwy i ddod yn aelod o dîm cynhwysiant yr ysgol.

Chwiliwn am ymgeisydd egnïol a hyblyg fydd yn medru ymdopi â’r her o gefnogi ystod eang o ddysgwyr o fewn yr adran gynhwysiant ac yn ystod y diwrnod ysgol. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar hyrwyddo cynhwysiant a chynnydd dysgwyr drwy gefnogi gweithgareddau dysgu mewn gwahanol amgylcheddau.

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sy’n meddu ar frwdfrydedd heintus ac sy’n awyddus i weithio yma yn Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhondda.

Y rôl

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

  • arwain a chefnogi sesiynau gwaith ac ymyrraeth ar gyfer unigolion a grwpiau bach o ddysgwyr,
  • gweithio’n agos gyda staff addysgu a’r tîm cynhwysiant i gefnogi cynnydd dysgwyr,
  • cynorthwyo dysgwyr i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau dysgu ar draws yr ysgol,
  • darparu cefnogaeth hyblyg o fewn gwahanol amgylcheddau dysgu (gan gynnwys o fewn y dosbarth ar adegau),
  • hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a lles dysgwyr,
  • cyfrannu at ethos cynhwysol yr ysgol a bywyd ehangach yr adran.
  • Nid yw profiad blaenorol mewn addysg yn hanfodol, ond byddai’n fantais.

    Rydym yn chwilio am rywun sy’n:

  • meddu ar sgiliau cyfathrebu cryf ac yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda dysgwyr,
  • hyblyg ac yn gallu addasu i anghenion gwahanol ddysgwyr a sefyllfaoedd,
  • ymrwymedig i gynhwysiant, tegwch a lles pob dysgwr,
  • gallu gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm,
  • dangos agwedd gadarnhaol, frwdfrydig ac yn gallu ysgogi dysgwyr,
  • trefnus a dibynadwy yn ei waith dyddiol,
  • ymrwymedig i addysg Gymraeg ac yn cefnogi’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.
  • Ynglŷn â’r ysgol

    Mae gweledigaeth yr ysgol “Dyheu. Dysg. Daioni.” yn amlinellu ein hymrwymiad i ragoriaeth, tegwch a lles, ac mae’n tanategu pob agwedd o fywyd yr ysgol. Mae Cymreictod a pharch yn greiddiol i’n hethos: parch at ein hunain, parch at eraill a’n hamgylchfyd, a balchder yn ein hiaith, ein diwylliant a’n llwyddiannau ar y cyd.

    Lleoliad a chyfleusterau

    Mae’r ysgol yn gwasanaethu dalgylch eang ar draws Cwm Rhondda, gyda chysylltiadau rhwydd o fod wedi’i lleoli yn y Porth – tua 20 munud o Gaerdydd ac 20 munud o Ben-y-bont.

    Ysgol Newydd i Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhondda:

    Bydd yr ysgol hefyd yn elwa o ysgol newydd sbon yr 21ain Ganrif, yn dilyn buddsoddiad sylweddol gyda chefnogaeth Cyngor RhCT a Llywodraeth Cymru, a gwaith adeiladu eisoes ar y gweill.

    Ymholiadau anffurfiol

    Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â'r CADY Mrs Rhian Roberts.

    Diogelu

    Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhondda wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriadau cyn-gyflogaeth priodol, gan gynnwys gwiriad DBS uwch a geirdaon boddhaol.

    Safeguarding Statement

    Ysgol Gyfun Cwm Rhondda is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.

    Cynorthwyydd Dysgu in Porth employer: Ysgol Gyfun Cwm Rhondda

    Ysgol Gyfun Cwm Rhondda is an exceptional employer dedicated to fostering a supportive and inclusive work environment. With a strong focus on community engagement and family involvement, employees have the opportunity to make a meaningful impact on students' lives while benefiting from professional development and collaboration with passionate colleagues. Located in a vibrant community, the school offers unique advantages such as access to local resources and a commitment to safeguarding and promoting the welfare of all children and families.

    Y

    Contact Details:

    Ysgol Gyfun Cwm Rhondda Recruitment Team