Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Swyddog Symudedd y Prosiect Ewch Allan i’r Awyr Agored
Rhan-amser (12 awr yr wythnos / 0.32 CALl), oriau hyblyg gydol yr wythnos
Swydd yw hon i helpu i wneud traethau a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn fwy hygyrch. Byddwch yn cydlynu’r defnydd o gadeiriau olwyn traeth ac offer symudedd arall, gan alluogi pobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd i fwynhau ymweliadau yn yr awyr agored.
Gan weithio o swyddfa’r Parc yn Llanion ac mewn lleoliadau ar hyd a lled Sir Benfro, byddwch yn cysylltu â busnesau, cymunedau a safleoedd partner i ehangu mynediad at offer. Byddwch hefyd yn rheoli archebion ac ymholiadau, yn datblygu gwybodaeth hygyrch, yn hyrwyddo’r prosiect, yn monitro’r defnydd, yn cynnal asesiadau risg ac yn helpu i sicrhau bod offer yn cael ei storio a’i gynnal yn ddiogel.
Byddwch yn cynorthwyo gwirfoddolwyr ac yn cydweithredu â chydweithwyr a phartneriaid, gan gynnwys Castell Henllys, Oriel y Parc a Chastell Caeriw. Mae’r swydd yn cyfuno gwaith ymarferol ar y safle â gwaith cydlynu wrth y ddesg a gwaith achlysurol ar benwythnosau yn ystod cyfnodau prysur.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r canlynol:
- Profiad o ddarparu gwasanaethau i bobl sydd ag anghenion symudedd neu iechyd, a meithrin perthnasoedd effeithiol ar draws y sectorau.
- Sgiliau logisteg, cyfathrebu, trefnu a thechnoleg gwybodaeth cadarn, a’r gallu i weithio’n annibynnol ac yn sensitif gyda’r cyhoedd.
- Profiad o asesiadau risg, ysgrifennu adroddiadau a gwerthuso prosiectau, ynghyd ag ymrwymiad i gydraddoldeb, hygyrchedd a chynhwysiant cymdeithasol.
Cyfeirier at y disgrifiad swydd (sydd ar gael i’w lawrlwytho) am ragor o wybodaeth.
Cyflog a Buddion:
Cyflog o £29,542-£31,015, pro rata, y flwyddyn, lleiafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy’n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein proses recriwtio yn hygyrch i bawb. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch ar unrhyw gam o’ch cais, anfonwch e-bost at personnel@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffoniwch 01646 624800. Rydym yn croesawu ymgeiswyr sy’n defnyddio cwn cymorth a byddwn yn sicrhau y gallant fod gyda chi drwy gydol y broses recriwtio. Os oes angen unrhyw drefniadau penodol neu gymorth ychwanegol arnoch, rhowch wybod i ni a byddwn yn gwneud ein gorau i ddiwallu eich anghenion. Gellir darparu gwybodaeth mewn fformatau amgen, gan gynnwys Word, PDF hygyrch, print bras, sain a fformatau eraill ar gais.
Nid y swydd iawn i chi? Cofiwch gael golwg ar ein gwefan am ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli amrywiol a diddorol ar draws y Parc.
Dyddiad Cau: 22/11/2026
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar.
Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Deallwn y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer megis deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i gynorthwyo’r gwaith o baratoi eu cais. Er y caniateir defnyddio’r cyfryw offer, cyfrifoldeb llwyr yr ymgeisydd yw sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn cynrychioli eu sgiliau, eu profiadau a’u cymwysterau hwy eu hunain.
- Canniffa gwybodaeth sy’n ffug, yn gamarweiniol, neu wedi’i gorliwio, p'un a gafodd y wybodaeth ei chynhyrchu gan Ddeallusrwydd Artiffisial ai peidio, olygu bod eich bod yn anghymwys i fod yn rhan o’r broses recriwtio neu olygu eich diswyddo os caiff hynny ei darganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno’r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi’i gyflwyno’n ddidwyll.
Swyddog Symudedd y Prosiect Ewch Allan i’r Awyr Agored in Pembroke Dock employer: WEBRECRUIT
WEBRECRUIT is an excellent employer, offering a dynamic work culture that fosters collaboration and innovation in the heart of London. With competitive benefits and a strong focus on employee growth, this role provides opportunities to lead impactful technology and digital transformation projects while enjoying the flexibility of hybrid working. Join a team that values your expertise and supports your professional development in a vibrant city environment.