Swyddog Adnoddau Dynol
Rhan-amser 3 diwrnod yr wythnos
Parhaol
Ydych chi'n ffynnu mewn swydd lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i lesiant y gweithwyr, i ddiwylliant y sefydliad, ac i arferion pobl?
Rydym yn chwilio am Swyddog Adnoddau Dynol rhagweithiol a gwybodus i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Pobl. Swydd gyffredinol AD yw hon yn bennaf â chyfrifoldeb am gynorthwyo a chydlynu gweithgareddau Iechyd a Diogelwch y sefydliad, gan helpu i hyrwyddo amgylchedd gwaith diogel a chadarnhaol.
Ynglyn â'r Swydd
Mae’r swydd yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol mewn cyflawni gwasanaeth AD proffesiynol o ansawdd uchel ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Byddwch yn rhoi cyngor arbenigol ar faterion AD ar draws ystod eang o faterion sy’n ymwneud â phobl, gan gynorthwyo’r rheolwyr a’r gweithwyr gydol cylch oes y gweithiwr. Yn ogystal â’ch cyfrifoldebau AD, chi fydd pwynt cyswllt y Gwasanaethau Pobl o ran Iechyd a Diogelwch, a byddwch yn helpu i gynnal cydymffurfiaeth, hyrwyddo arfer gorau, a chynorthwyo diwylliant cadarn o ddiogelwch.
Hefyd byddwch yn cyfrannu at ddatblygu polisïau, prosesau a mentrau AD yn barhaus sy’n cynnal amcanion y sefydliad a phrofiad y gweithwyr.
Beth Fyddwch yn Ei Wneud
- Rhoi cyngor AD proffesiynol yn unol â’r ddeddfwriaeth ac arferion gorau.
- Cynorthwyo’r broses o recriwtio, rheoli perfformiad, cysylltiadau gweithwyr, dysgu a datblygu, a mentrau llesiant.
- Datblygu a gweithredu’r polisïau a’r gweithdrefnau AD.
- Llunio adroddiadau a mewnwelediad ar faterion AD i lywio’r gwaith o wneud penderfyniadau.
- Cydlynu a chynorthwyo’r gweithgareddau Iechyd a Diogelwch ar draws y sefydliad.
- Rhoi canllawiau i’r rheolwyr ar faterion Iechyd a Diogelwch, a chynorthwyo i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
- Cynorthwyo’r gwaith o gyflwyno hyfforddiant ar draws materion AD ac Iechyd a Diogelwch.
Rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr sy’n cynnig y canlynol:
- Profd cyffredinol helaeth o faterion AD.
- Diddordeb mewn arferion Iechyd a Diogelwch a dealltwriaeth o’r arferion hynny.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
- Y gallu i gyfathrebu ar lafar hyd at Lefel B2 yn y Gymraeg.
Cymwysterau a Phrofiad
- Addysg lefel gradd neu brofiad cyfatebol.
- CIPD Lefel 5.
- Cymhwyster IOSH - Dymunol, gellir cynnig hyfforddiant (neu dystysgrif Iechyd a Diogelwch cyfatebol) neu barodrwydd i weithio tuag at gael tystysgrif.
- Gwybodaeth am systemau Adnoddau Dynol.
Cyflog a Buddion:
Cyflog o £32,597 - £34,434, pro rata, y flwyddyn, lleia
#J-18808-Ljbffr
Swyddog Adnoddau Dynol in Pembroke Dock employer: WEBRECRUIT
WEBRECRUIT is an excellent employer, offering a dynamic work culture that fosters collaboration and innovation in the heart of London. With competitive benefits and a strong focus on employee growth, this role provides opportunities to lead impactful technology and digital transformation projects while enjoying the flexibility of hybrid working. Join a team that values your expertise and supports your professional development in a vibrant city environment.