Cynorthwyydd Arlwyo a Chynadledda
Parhaol, Rhan-amser, 30 awr dros 7 diwrnod
Gradd 1 / £11.80 yr awr. Mae PCYDDS yn falch o fod yn Gyflogwr Cyflog Byw Achrededig. £13.45 yr awr yw cyfradd y Cyflog Byw Gwirfoddol (VLW). Byddwn yn gweithredu addasiad i'r gyfradd gyflog ar gyfer y rôl hon i'w c...
Y RÔL
Mae Canolfan S4C Yr Egin wedi'i lleoli ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin ac mae'n ganolfan greadigol o safon gydag amgylchedd gwaith prysur. Ers agor yn 2018, mae statws Yr Egin wedi'i sefydlu yn adnodd gwerthfawr i Gaerfyrddin, Sir Gaerfyrddin a Chymru. Mae Y Gegin, y caffi sydd wedi'i leoli ar y llawr gwaelod, yn ofod agored a chroesawgar ac yn rhan bwysig o fywiogrwydd y ganolfan, a bydd y Cynorthwyydd Arlwyo a Chynadledda yn Y Gegin yn chwarae rhan bwysig wrth cynnal awyrgylch cynnes y caffi er mwyn denu a chadw ymwelwyr â'r Egin.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd baratoi coffi a diodydd poeth arbenigol, a gweini prydau o ansawdd uchel, gan ddarparu gofal cwsmeriaid effeithiol a fydd yn ategu datblygiad Yr Egin yn ddewis gyrchfan yng Nghaerfyrddin. Mae gan Y Gegin sylfaen eang o gwsmeriaid megis y gymuned greadigol sy'n gweithio yn y ganolfan, cynulleidfaoedd digwyddiadau a chynadleddwyr yn y Brifysgol, myfyrwyr a staff, yn ogystal â'r gymuned leol, teuluoedd ac ymwelwyr, ac felly bydd angen i'r Cynorthwyydd Arlwyo a Chynadledda yn Y Gegin allu cyfathrebu'n gwrtais a chynnig profiad a fydd yn annog y cwsmer i ddychwelyd dro ar ôl tro.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd am fanylion y meini prawf hanfodol sy'n ofynnol ar gyfer y rôl hon.
Y GYMRAEG
Mae gallu i gyfathrebu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
GWYBODAETH YCHWANEGOL
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, ynghyd ag 8 gwyl banc a 4 diwrnod pan fo’r Brifysgol ynghau, pro rata
- I gael gwybodaeth am ein buddion staff, copïwch a gludwch y ddolen hon yn eich porwr: https://www.uwtsd.ac.uk/jobs
- Nid yw’r swydd hon yn gymwys ar gyfer nawdd
- Nid yw’r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. O’r herwydd, caiff eich cais ei asesu ar sail eich cais a’ch datganiad ategol.
Dyddiad cau: 09/09/2026
#J-18808-Ljbffr
Cynorthwyydd Arlwyo a Chynadledda in Carmarthen employer: WEBRECRUIT
WEBRECRUIT is an excellent employer, offering a dynamic work culture that fosters collaboration and innovation in the heart of London. With competitive benefits and a strong focus on employee growth, this role provides opportunities to lead impactful technology and digital transformation projects while enjoying the flexibility of hybrid working. Join a team that values your expertise and supports your professional development in a vibrant city environment.