Swyddog Datblygu Partneriaethau
Ni yw'r sefydliad partneriaeth cenedlaethol ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru, gyda'r nod o alluogi sefydliadau gwirfoddol i wneud gwahaniaeth mwy gyda'n gilydd.
Gan gefnogi elusennau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol ledled Cymru, rydym yn helpu'r sector i gysylltu, tyfu a dylanwadu ar newid trwy gydweithio, hyfforddiant, cyllid a chymorth ymarferol, gan gryfhau'r effaith y mae sefydliadau'n ei chael yn eu cymunedau.
Mae Recruit3 yn platfform recriwtio pwrpasol sy'n cysylltu pobl dalentog â gyrfaoedd gwerth chweil ar draws trydydd sector Cymru, o elusennau a grwpiau gwirfoddol i sefydliadau cymunedol a mentrau cymdeithasol.
Rydym bellach yn chwilio am Swyddog Datblygu Partneriaethau i ymuno â Recruit3 ar sail amser llawn a pharhaol, gan weithio 35 awr yr wythnos mewn ffordd hyblyg.
Rydym yn treialu wythnos waith pedwar diwrnod am gyfnod o 12 mis. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ein patrwm gwaith yn 30 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Iau. Rhoddir manylion pellach am y treial yn ystod y broses recriwtio.
- Cyflog o £34,285, yn codi i £35,313 y flwyddyn, ar ôl cwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus
- 25 diwrnod o wyliau â thâl, ynghyd ag 8 gŵyl banc a 5 diwrnod dewisol ychwanegol
- Cyfraniad pensiwn cyflogwr o 9%
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr
- Tâl salwch gwell
Fel Swyddog Datblygu Partneriaethau, byddwch yn cefnogi twf Recruit3 ac yn cynyddu ymgysylltiad â'n cynnig partneriaid ar draws y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Gan gymryd cyfrifoldeb o ddydd i ddydd am Recruit3, byddwch yn sicrhau bod y platfform yn parhau i fod yn berthnasol, yn hygyrch ac yn werthfawr. Byddwch yn cynyddu ei ddefnydd ymhlith sefydliadau gwirfoddol, gan helpu i gynyddu nifer y rolau a hysbysebir a chynhyrchu incwm cynaliadwy.
Byddwch hefyd yn cydlynu gweithgaredd i recriwtio, cadw ac ymgysylltu â'n partneriaid, gan adeiladu perthnasoedd cryf a datblygu partneriaethau gwerthfawr sy'n cryfhau cysylltiadau ar draws y sector gwirfoddol.
- Cefnogi cynllunio a chyflwyno fforymau a digwyddiadau partneriaid
- Cyflwyno gweithgareddau ymgysylltu partneriaid eraill
- Monitro perfformiad a nodi cyfleoedd i wella
I gael eich ystyried ar gyfer y swydd Swyddog Datblygu Partneriaethau, bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiaid o feithrin, rheoli a chynnal perthnasoedd cynhyrchiol gyda sefydliadau allanol, rhanddeiliaid, cwsmeriaid neu bartneriaid
- Profiaid o ddefnyddio gwybodaeth neu ddata i lywio penderfyniadau a gwella canlyniadau
- Profiaid o ddefnyddio systemau digidol perthnasol, fel gwefannau, systemau CRM neu offer adrodd
- Y gallu i nodi cyfleoedd a'u cyflawni hyd y diwedd
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig cryf wrth ymdrin ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac fel rhan o dîm
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 5 Hydref 2026.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Swyddog Partneriaethau, Swyddog Gweithredol Partneriaethau, Swyddog Gweithredol Datblygu Partneriaethau, Swyddog Partneriaethau Elusennol, Swyddog Ymgysylltu â Phartneriaid, Swyddog Perthynas, neu Gydlynydd Partneriaethau.
Mae Webrecruit a WCVA yn gyflogwyr cyfle cyfartal, yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac wedi ymrwymo'n gryf i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth cyfartal i bob gweithiwr a phob ymgeisydd am gyflogaeth. Bydd ffurflen fonitro cyfle cyfartal ddienw yn rhan o'ch cais ac fe'i defnyddir at ddibenion monitro yn unig.
#J-18808-Ljbffr