Ynglŷn â'r rôl
Mae hwn yn gyfle cyfnod penodol o ddwy flynedd i gryfhau cynllunio strategol y gweithlu ar draws ysgolion y Fro a helpu i ddatblygu dulliau a fydd yn cefnogi penderfyniadau gwell am y gweithlu yn y tymor hwy.
Byddwch yn dod â gwybodaeth am y gweithlu, cyllid, demograffeg, addysg a’r farchnad lafur ynghyd i helpu ysgolion i ddeall beth sy’n newid, ble gall risgiau’r dyfodol godi a pha gamau sydd eu hangen nawr.
Mae’r rôl yn mynd ymhell y tu hwnt i ddata’r gweithlu. Byddwch yn gweithio gyda phenaethiaid, cyrff llywodraethu ac uwch arweinwyr addysg i ystyried sut y gallai rolau, sgiliau a strwythurau ddatblygu, gan ddefnyddio’r egwyddor o ddylunio’r gwaith cyn dylunio’r swyddi.
Byddwch yn helpu i gryfhau cynllunio olyniaeth, talent a llwybrau gyrfa, gan gynnwys datblygu gweithlu cyfrwng Cymraeg cynaliadwy, ac yn cyfrannu at bolisïau pobl a’r gweithlu ar draws ysgolion a chyrff llywodraethu.
Bydd y ffordd rydych yn gweithio yr un mor bwysig. Nid dweud wrth ysgolion sut dylai eu gweithlu edrych fydd eich rôl. Byddwch yn helpu arweinwyr i ofyn cwestiynau gwell, deall y dystiolaeth, ystyried gwahanol opsiynau a gwneud penderfyniadau gwybodus.
Weithiau bydd hynny’n golygu herio ffordd sefydledig o feddwl neu gefnogi penderfyniadau anodd. Rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu cyfuno tystiolaeth ag empathi, her adeiladol â pherthnasoedd cryf, ac anghenion y sefydliad â dealltwriaeth o’r bobl yr effeithir arnynt.
Bydd eich effaith yn dod drwy eich arbenigedd, eich barn broffesiynol, eich gallu i hwyluso a’ch dylanwad, gan helpu i feithrin gallu cynllunio’r gweithlu ar draws ein hysgolion yn hytrach na dibyniaeth ar un rôl.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae hon yn rôl Gradd 9 (£43,149–£47,665) ar gontract cyfnod penodol o ddwy flynedd.
Mae’r rôl yn 37 awr yr wythnos gyda gweithio hyblyg. Eich prif leoliad gwaith fydd y Swyddfeydd Dinesig yn y Barri, gyda chyfleoedd i weithio o bell lle bo’n briodol.
Fodd bynnag, mae hon yn rôl sy’n gweithio ar draws ein hysgolion yn y Fro. Mae meithrin perthnasoedd o ymddiriedaeth gyda phenaethiaid, cyrff llywodraethu ac arweinwyr ysgolion yn rhan ganolog o’r rôl, ac rydym yn disgwyl i ddeiliad y swydd dreulio amser mewn ysgolion ledled y Fro, gan ddeall eu gwahanol gyd-destunau, heriau gweithlu ac anghenion y dyfodol. Bydd adegau hefyd pan fydd angen mynd i gyfarfodydd neu weithio mewn lleoliadau eraill y Cyngor.
Byddwch yn cael mynediad at fanteision gweithio i Gyngor Bro Morganny, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gwyliau blynyddol hael, cyfleoedd dysgu a datblygu, cymorth llesiant a rhwydweithiau staff.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ond nid ydynt yn hanfodol. Fodd bynnag, bydd angen i chi ddeall pwysigrwydd datblygu capasiti cynaliadwy ar gyfer y gweithlu cyfrwng Cymraeg a bod yn ymrwymedig i gefnogi’r gwaith hwn.
Dyddiad cau
21 Hydref 2026
Asesiad / cyfweliad
9 Tachwedd 2026
#J-18808-Ljbffr
Arweinydd Cynllunio Gweithlu Strategol - Ysgolion - Dros Dro / Tymor Penodedig in Barry employer: Vale Of Glamorgan
The Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a supportive and collaborative work environment where your legal expertise can directly influence community outcomes. With a strong commitment to employee growth through management development programmes and a focus on work-life balance, this role as Principal Lawyer allows you to engage in meaningful projects that shape the future of vibrant coastal communities. Join us in our mission to create thriving environments while enjoying the benefits of flexible working arrangements and a culture that celebrates collective success.