Amdanom ni
Mae'r Tîm Asesu Arbenigol Therapi Galwedigaethol a Namau ar y Synhwyrau wedi'u lleoli yn y Barri ac yn cynnal asesiadau yng nghartrefi pobl ledled Bro Morgannwg. Mae'r tîm yn cynnwys Therapyddion Galwedigaethol, Swyddogion Gofal Cymdeithasol a Swyddog Adsefydlu ar gyfer pobl â Nam ar eu Golwg. Swyddogaeth y tîm yw edrych ar gyfarpar ac addasiadau priodol i alluogi person i barhau i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol yn ei gartref. Rydym yn gweithio'n agos gyda thimau eraill yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i helpu i gynllunio gofal pobl pan fo angen.
Uchelgeisiol - Meddwl, cofleidio ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored - Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn.
Gyda'n Gilydd - Gweithio gyda'n gilydd fel tîm sy'n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, yn parchu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i wasanaethau o safon.
Balch - Balch o Fro Morgannwg; yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.
Ynglŷn â'r rôl
Manylion Tâl: Gradd 9 scp 31-35 £43,149 -£47,665
Oriau Gwaith: 37
Patrwm Gweithio: Dydd Llun – Dydd Gwener
Prif Weithle: Swyddfeydd Dinesig, Y Barri
Rydym yn chwilio am Uwch Therapydd Galwedigaethol deinamig i ymuno â’n
tîm gofal cymdeithasol blaengar. Mae hyn yn fwy na swydd yn unig - mae'n
gyfle i arwain, dylanwadu, a chreu effaith barhaol o fewn amgylchedd
cefnogol, amlddisgyblaethol.
Byddwch yn defnyddio'ch arbenigedd i rymuso unigolion i fyw'n annibynnol,
yn ddiogel, a chydag urddas yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain.
O asesiadau symud a thrin cymhleth i addasiadau mawr a darpariaeth offer
arbenigol, byddwch yn ysgogi ymyriadau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio
ar yr unigolyn
Amdanat ti
Bydd angen:
- Profiad gwaith cyflogedig neu wirfoddol
- Lleoliad gwaith maes llwyddiannus os yn cael ei benodi fel blwyddyn gyntaf yn y swydd
- Gallu amlwg i gydgysylltu ag asiantaethau a disgyblaethau eraill
- Gallu i adnabod a derbyn ffiniau proffesiynol a chyrchu arweiniad pan fo angen
- Gwybodaeth ac ymrwymiad i’r cysyniad o’r Model Cymdeithasol o Anabledd
- Dealltwriaeth sylfaenol o’r fframwaith ddeddfwriaethol sy’n caniatáu i’r adran wasanaethau cymdeithasol ddarparu gwasanaethau. ▪ Gwybodaeth a dealltwriaeth o effaith salwch ac anabledd ▪ Y gallu i weithio dan bwysau.
- Y gallu i weithio yn annibynnol a hyblyg
- Y gallu i weithio fel aelod o’r tîm
- Sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Llythrennedd cyfrifiadurol neu barodrwydd i ddatblygu sgiliau cyfrifiadurol er mwyn cwblhau tasgau angenrheidiol yn gweithle
- Addysg gyffredinol dda
- Gradd neu ddiploma mewn Therapi Galwedigaethol
- Cofrestriad cyfredol gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ▪ Parodrwydd i gael ei arolygu
Gwybodaeth Ychwanegol
Oes angen Gwiriad GDG: Oedolyn Wedi'i Ddiwygio ac Ar Gwahardd
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Andrew Cole 01446 725100
Gweler y disgrifiad swydd/ manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach
Therapiydd Galwedigaethol Hŷn employer: Vale of Glamorgan Council
Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.