At a Glance
- Tasks: Lead a passionate team supporting children with additional needs and coordinate tailored care services.
- Company: Vale of Glamorgan Council, committed to early years excellence.
- Benefits: Ongoing professional development, supportive team environment, and job security until March 2028.
- Other info: Join a dynamic team with excellent career progression opportunities.
- Why this job: Make a real difference in the lives of families and children in your community.
- Qualifications: Level 5 qualification in relevant fields and at least 4 years of early years experience.
The predicted salary is between 40500 - 49500 £ per year.
Amdanom ni
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gwahodd ceisiadau i ymuno â'i Raglen Dechrau'n Deg - menter Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi teuluoedd â phlant 0–3 oed mewn ardaloedd wedi'u targedu.
Ein nod yw rhoi'r dechrau gorau posibl i bob plentyn mewn bywyd trwy wasanaethau blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel.
Mae Dechrau'n Deg yn canolbwyntio ar hyrwyddo iaith, datblygiad gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol, sgiliau corfforol, a nodi anghenion ychwanegol yn gynnar.
Rydym yn cyflawni hyn trwy Ymweliadau Iechyd a chymorth, Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, rhaglenni Rhiant, a gofal plant rhan amser wedi'i ariannu.
Fel Uwch Swyddog Cynhwysiant gyda rhaglen Dechrau’n Deg Bro Morgannwg, byddwch yn rhan o dim cryf, a brwdfrydig.
Bydd eich rôl yn cynnwys rheoli tîm bach yn uniongyrchol, cefnogi plant ag anghenion sy'n dod i'r amlwg neu sydd wedi cael diagnosis a chydlynu gwasanaethau cyn-ofal plant er mwyn sicrhau bod gan blant becyn cymorth gwell, wedi'i deilwra, wedi'i gysylltu ag anghenion unigol.
Manteision ymuno â thîm Dechrau'n Deg Bro Morgannwg
- Datblygiad Proffesiynol: Mynediad at hyfforddiant parhaus a sesiynau ymarfer myfyriol i'ch helpu i dyfu yn eich gyrfa.
- Effaith Gadarnhaol: Byddwch yn rhan o fenter Llywodraeth Cymru sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd a phlant yn y gymuned.
- Amgylchedd Tîm: Ymunwch â thîm cefnogol, cyfeillgar sy'n ymrwymedig i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel.
Diogelwch Swydd: Mae'r rhaglen Dechrau'n Deg yn cael ei hariannu tan fis Mawrth 2028.
- Uchelgeisiol
- Meddwl, cofleidio ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
- Agored
- Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn.
- Gyda'n Gilydd
- Gweithio gyda'n gilydd fel tîm sy'n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, yn parchu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i wasanaethau o safon.
- Balch
- Balch o Fro Morgannwg; yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg
- Ynglŷn â'r rôl
Fel Uwch Swyddog Cynhwysiant gyda rhaglen Dechrau’n Deg Bro Morgannwg, byddwch yn rhan o dim cryf, a brwdfrydig.
Bydd eich rôl yn cynnwys rheoli tîm bach yn uniongyrchol, cefnogi plant ag anghenion sy'n dod i'r amlwg neu sydd wedi cael diagnosis a chydlynu gwasanaethau cyn-ofal plant er mwyn sicrhau bod gan blant becyn cymorth gwell, wedi'i deilwra, wedi'i gysylltu ag anghenion unigol.
- Goruchwylio tîm o Swyddogion Cynhwysiant gan sicrhau bod lles yn cael ei gynnal, anghenion hyfforddi yn cael eu diwallu, a darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i blant a theuluoedd.
- Dyrannu a monitro gwaith yn uniongyrchol i'r swyddogion cynhwysiant, a'u cefnogi i ddatblygu gwaith yn seiliedig ar anghenion unigol y plentyn
- Cydlynu cymorth cyn gofal plant i blant y nodir bod angen cymorth ychwanegol arnynt, er mwyn sicrhau bod plant yn gallu cael mynediad at eu hawl i ofal plant.
- Cynnal ymweliadau cartref ac arsylwadau i nodi'r cymorth sydd ei angen, gan gysylltu â gweithwyr proffesiynol angenrheidiol, gan gynnwys iechyd i ddarparu pontio di-dor i ofal plant.
- Cynnal asesiadau risg, cynlluniau cymorth, gan gynnwys cynlluniau gofal iechyd unigol, yn unol ag anghenion unigol y plentyn, sy'n gysylltiedig â dewis lleoliad.
- Arwain cyfarfodydd Tîm o amgylch y Teulu ar gyfer plant ag anghenion cymhleth cyn gofal plant, a chefnogi cynlluniau ar gyfer pontio i addysg.
- Hwyluso hyfforddiant i dimau Dechrau’n Deg, gan gynnwys darparwyr wedi’u comisiynu mewn cysylltiad â dysgu a datblygu plant a modelau arfer da a argymhellir yn y maes Gofal Plant/Blynyddoedd Cynnar.
- Gweithio mewn partneriaeth agos â lleoliadau a theuluoedd i ddatblygu Cynlluniau Chwarae Unigol a Phroffiliau Un Dudalen i sicrhau y cefnogir plant ag ADY cyn gofal plant ac wrth bontio i’r Meithrin
- Amdanat ti
Os ydych chi’n frwdfrydig ac yn angerddol am gefnogi plant ac eisiau bod yn rhan o dim cefnogol anhygoel, yna byddem yn eich annog i wneud cais.
- Cymhwyster lefel 5 naill ai mewn Gofal Plant, Gofal Cymdeithasol neu Addysg, neu bwnc arall sy’n berthnasol i'r swydd.
- O leiaf 4 blynedd o weithio yn y sector Blynyddoedd Cynnar
- Profiad o weithio'n uniongyrchol gyda rhieni i ddarparu cyngor a strategaethau i gefnogi angen datblygiadol eu plentyn
- Profiad o weithio’n uniongyrchol gyda phlant sydd ag anghenion cymhleth amrywiol
- Gwybodaeth am ddatblygiad addysgol ac anghenion iechyd plant dan 5 oed
- Gwybodaeth ac ymwybyddiaeth fanwl o'r sector Blynyddoedd Cynnar a gwella datblygiad plant
- Gallu arwain a rheoli pobl gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau.
- Sgiliau trefnu effeithiol, gyda'r gallu i gynllunio gwaith, blaenoriaethu a gweithio i derfynau amser tyn.
- Yn hyderus wrth gyfathrebu â gweithwyr proffesiynol eraill o wahanol asiantaethau partner ac eirioli ar ran plant a theuluoedd
- Gallu cyfathrebu’n effeithiol ac â sensitifrwydd gyda phlant, rhieni, cydweithwyr ac asiantaethau eraill, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Yn gallu teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel sy’n briodol.
- Gwybodaeth Ychwanegol
Byddwch yn rhan annatod o'r tîm ehangach Dechrau'n Deg, gyda llawer o gefnogaeth ar gael yn ogystal â chyfleoedd dilyniant gyrfa rhagorol.
Am unrhyw ymholiadau neu ragor o wybodaeth cysylltwch â
- curch@valeofglamorgan. gov. uk
- Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach
Swyddog Cynnwys Hŷn Flying Start - Dros Dro / Tymor Penodedig employer: Vale of Glamorgan Council
Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.