Rheolwr Cefnogaeth Rhiant - Dros Dro / Tymor Penodol

Rheolwr Cefnogaeth Rhiant - Dros Dro / Tymor Penodol

Full-Time On-site
V

Amdanom ni

Ydych chi'n arweinydd profiadol ac ysgogol sy’n frwd dros wella deilliannau i blant ifanc a theuluoedd?

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn chwilio am Reolwr Tîm Cymorth i Rieni Dechrau'n Deg uchelgeisiol, llawn cymhelliant a blaengar i arwain a datblygu ein Gwasanaeth Cymorth i Rieni pwrpasol. Mae hyn yn gyfle gwerth chweil i lunio dyfodol darpariaeth cymorth i deuluoedd, arwain tîm amlddisgyblaethol medrus a gwneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau plant a theuluoedd ar draws y Fro.

Gan weithio o fewn rhaglen Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru, byddwch chi'n chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth cywir ar yr adeg iawn, gan helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella canlyniadau drwy ymyrraeth gynnar, atal, a diogelu. Byddwch yn dylanwadu ar ddarpariaeth weithredol a datblygu, gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr a phartneriaid ar draws iechyd, addysg, gofal cymdeithasol a'r sector gwirfoddol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar deuluoedd.

Pam Ymuno â Ni?

Mae hyn yn gyfle cyffrous i:

  • Arwain a datblygu Tîm Cymorth i Rieni amlddisgyblaethol sefydledig.
  • Dylanwadu ar ddatblygiad gwasanaeth a gyrru gwelliant parhaus.
  • Gweithio mewn amgylchedd amlasiantaethol cydweithredol ar y cyd â phartneriaid iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a Llywodraeth Cymru.
  • Hyrwyddo diogelu, ymyrraeth gynnar ac ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau.
  • Gwneud gwahaniaeth diriaethol i fywydau plant a theuluoedd bob dydd.

Uchelgeisiol - Meddwl, cofleidio ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored - Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn.
Gyda'n Gilydd - Gweithio gyda'n gilydd fel tîm sy'n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, yn parchu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i wasanaethau o safon.
Balch - Balch o Fro Morgannwg; yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.

Ynglŷn â'r rôl

Manylion Cyflog: Gradd 10, PCG 36 - 39 £48,738 - £51,928
Oriau Gwaith/Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener
Prif Weithle: Y Barri, gyda chyfrifoldeb am wasanaethau ar draws Bro Morgannwg
Rheswm am gynnig Swydd Dros Dro: Cyfnod absenoldeb am hyd at flwyddyn ond heb fod yn hwyrach na 31.03.2028

Disgrifiad:
Fel Rheolwr Tîm Cymorth i Rieni Dechrau'n Deg, byddwch yn darparu arweinyddiaeth weithredol i'r Gwasanaeth Cymorth i Rieni, gan sicrhau darparu cymorth o ansawdd uchel, sy'n ystyriol o drawma ac yn seiliedig ar gryfderau i blant a theuluoedd. Byddwch yn gyfrifol am reoli, goruchwylio a datblygu'r Tîm Cymorth i Rieni, gan hyrwyddo ymarfer myfyriol, arloesi a gwelliant parhaus ar draws y gwasanaeth.

Mae’r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:

  • Arwain, rheoli a chefnogi tîm amlddisgyblaethol.
  • Gyrru datblygu, cyflawni a gwerthuso amcanion Dechrau'n Deg.
  • Gweithredu fel prif swyddog diogelu ar gyfer gwasanaeth amlasiantaethol Dechrau'n Deg.
  • Monitro perfformiad gwasanaethau, deilliannau ac anghenion sy'n dod i'r amlwg i sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i fod yn ymatebol ac yn effeithiol.
  • Rheoli adnoddau a chyllidebau yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru a gweithdrefnau'r Cyngor.
  • Arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno mentrau cymorth arloesol i deuluoedd, gan gynnwys y prosiect Space for Change.
  • Dirprwyo ar ran y Rheolwr Dechrau'n Deg yn ôl yr angen.

Amdanat ti

Rydym yn chwilio am arweinydd hyderus a thosturiol sy'n frwd dros gefnogi plant a theuluoedd ac wedi ymrwymo i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl.

Bydd gennych:

  • Profiad sylweddol o weithio gyda phlant a theuluoedd.
  • Profiad o oruchwylio, datblygu ac ysgogi staff.
  • Gwybodaeth gref am ddiogelu, amddiffyn plant, asesu risg ac ymarfer cymorth i deuluoedd.
  • Dealltwriaeth ragorol o Dechrau'n Deg a chyd-destun polisi Cymru sy'n ymwneud â magu plant, diogelu ac ymyrraeth gynnar.
  • Sgiliau rhagorol o ran arwain, cyfathrebu a gweithio mewn partneriaeth.
  • Profiad o ddadansoddi gwybodaeth, monitro canlyniadau a gyrru’r gwaith o wella gwasanaeth.
  • Cymhwyster lefel gradd mewn Gwaith Cymdeithasol, Addysg, Iechyd neu’r Blynyddoedd Cynnar, ynghyd â thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Byddwch yn ymrwymedig i ddatblygu eraill, hyrwyddo safonau uchel o ymarfer a meithrin perthnasoedd cryf â theuluoedd, cydweithwyr ac asiantaethau partner.

Gwybodaeth Ychwanegol

Angen Gwiriad GDG: Manwl gyda Rhestrau Gwahardd Oedolion/Plant
Dyddiad creu rhestr fer:Tachwedd 2026
Dyddiad cyfweld:Tachwedd 2026

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Kath Clarke – Rheolwr Dechrau'n Deg – kjclarke@valeofglamorgan.gov.uk

Yn barod i wneud gwahaniaeth?

Os ydych chi'n frwd dros arwain gwasanaethau o ansawdd uchel, cefnogi teuluoedd a llunio dyfodol ymyrraeth gynnar a chymorth i deuluoedd ym Mro Morgannwg, byddem wrth ein bodd o glywed gennych. Ymunwch â ni a helpu i sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person sy’n atodedig am fwy o wybodaeth.

Rheolwr Cefnogaeth Rhiant - Dros Dro / Tymor Penodol employer: Vale of Glamorgan Council

Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.

V

Contact Details:

Vale of Glamorgan Council Recruitment Team