Amdanom ni
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Bro Morgannwg fel Rheolwr Anghenion Cymhleth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol i'r Tîm Anghenion Cymhleth, gan sicrhau cyflawni swyddogaethau ADY statudol yn effeithiol a darpariaeth o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol cymhleth. Mae'r rôl yn cynnwys goruchwylio gwaith achos cymhleth, darpariaeth arbenigol a threfniadau lleoliad, datrys anghydfodau, cwynion a thrafodion Tribiwnlys Addysg Cymru, gan sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth a chanllawiau statudol. Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle gwerth chweil i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant, pobl ifanc a'u teuluoedd trwy gydweithio gydag ysgolion, lleoliadau, asiantaethau partner a theuluoedd i sicrhau canlyniadau cadarnhaol a gwella cyfleoedd bywyd i ddysgwyr ar draws y Fro.
Mae Bro Morgannwg yn awdurdod sy'n seiliedig ar werthoedd, ac rydym yn chwilio am rywun sy'n rhannu ein gwerthoedd:
Uchelgeisiol - Blaengar, gan groesawu ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored - Yn agored i syniadau gwahanol ac yn atebol am y penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud.
Gyda’n gilydd - Gweithio gyda’n gilydd fel tîm sy’n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a phartneriaid, sy’n parchu amrywiaeth ac sydd wedi ymrwymo i wasanaethau o ansawdd.
Balch - Balch o Fro Morgannwg: balch i wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.
Ynglŷn â'r rôl
Manylion Cyflog: Gradd 10
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: Llawn Amser - 37 awr yr wythnos - Parhaol
Prif Weithle: Y Swyddfeydd Dinesig
Disgrifiad: Cefnogi'r timau ADY i sicrhau cyflawni'r Ddeddf ADY yn effeithiol ar draws yr Awdurdod Lleol, gan ddarparu arweinyddiaeth, arweiniad a chydlynu i sicrhau cefnogaeth o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y person, i blant a phobl ifanc.
Amdanat ti
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Gwybodaeth gref am y Ddeddf ADY
- Profiad o gefnogi dysgwyr ag anghenion ADY
- Arweinyddiaeth hyderus a sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Y gallu i adeiladu partneriaethau effeithiol
- Sgiliau trefnu cryf
- Barn broffesiynol gadarn ac ymrwymiad i ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Yn unigolyn sy'n cael ei yrru gan werthoedd
- Y gallu i helpu i arwain newid mewn amgylchedd cymhleth a deinamig
Gwybodaeth Ychwanegol
Angen Gwiriad GDG: Oes – gwiriad llawn a manwl
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Katy Williams - katwilliams@valeofglamorgan.gov.uk
Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person sy’n atodedig am fwy o wybodaeth.
Rheolwr Anghenion Cymhleth employer: Vale of Glamorgan Council
Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.