Prentis Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol 28 awr - Dros Dro / Am Gyfnod Penodedig

Prentis Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol 28 awr - Dros Dro / Am Gyfnod Penodedig

Full-Time On-site
V

Amdanom ni

Mae'r Tîm Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol yn angerddol am wneud gwybodaeth yn hawdd ei chanfod, yn hawdd ei deall, ac yn hygyrch i bawb sydd ei hangen. Rydym yn cefnogi teuluoedd, unigolion, gweithwyr proffesiynol a chymunedau i lywio'r ystod eang o wasanaethau sydd ar gael ar draws Bro Morgannwg.

Bydd y rôl hon yn cefnogi ein Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) - pwynt cyswllt cyntaf y Fro ar gyfer gwybodaeth am ofal plant, gweithgareddau a gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Wedi'i ddarparu trwy Gwmpawd Teulu y Fro, mae'r gwasanaeth yn helpu i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y cymorth a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt yn gyflym.

Rydym yn dîm cyfeillgar a chefnogol sy'n gwerthfawrogi dysgu, datblygu a chydweithio. Yn ogystal â chefnogi'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, byddwch hefyd yn cyfrannu at wella gwybodaeth gofal cymdeithasol ar draws y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ehangach.

Fel cyfle prentisiaeth, mae'r rôl hon yn cynnig y cyfle i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle tra’n cwblhau cymhwyster cydnabyddedig a datblygu sgiliau ar gyfer gyrfa yn y dyfodol mewn gweinyddiaeth, gwasanaethau digidol, rheoli gwybodaeth, neu gymorth i gwsmeriaid.

Rydym yn cofleidio gwerthoedd craidd Cyngor Bro Morgannwg o fod yn uchelgeisiol, yn agored, ynghyd ac yn falch. Rydym yn uchelgeisiol yn ein dull gweithredu, bob amser yn edrych tua’r dyfodol ac yn cofleidio ffyrdd newydd o weithio i fuddsoddi yn ein dyfodol. Rydym yn agored i syniadau newydd ac yn atebol am y penderfyniadau a wnawn. Rydym yn cydweithio, gan barchu amrywiaeth a darparu gwasanaethau o safon. Yn anad dim, rydym yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.

Ynglŷn â'r rôl

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddechrau eich gyrfa mewn tîm cefnogol a chyfeillgar wrth ennill cymhwyster cydnabyddedig. Fel Prentis Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol, byddwch yn datblygu sgiliau gweinyddol, cyfathrebu a digidol gwerthfawr wrth helpu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau cymorth pwysig.

Byddwch yn cwblhau cymhwyster perthnasol ochr yn ochr â'ch rôl o ddydd i ddydd, gan ennill profiad ymarferol a datblygu’n broffesiynol ar hyd y ffordd.

Yn y rôl hon, byddwch yn helpu i redeg y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd o ddydd i ddydd, yn ymateb i ymholiadau gan deuluoedd, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau partner dros y ffôn, e-bost a sianeli digidol.

Byddwch yn cynnal ac yn diweddaru gwybodaeth am wasanaethau lleol gan ddefnyddio gwefan Dewis Cymru. Byddwch yn cysylltu â sefydliadau a darparwyr gwasanaeth i adolygu a chadarnhau cywirdeb gwybodaeth.

Byddwch yn cefnogi'r Mynegai ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anableddau neu Anghenion Ychwanegol trwy brosesu cofrestriadau ac adolygu gwybodaeth gyda theuluoedd. Byddwch yn helpu gyda chreu a diweddaru cylchlythyrau, cynnwys gwefan, canllawiau gwybodaeth ac adnoddau digidol.

Yn ogystal, byddwch yn datblygu hyder gan ddefnyddio ystod o systemau digidol, cronfeydd data ac offer cyfathrebu, tra’n darparu cymorth gweinyddol sy'n helpu'r tîm i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac ymatebol.

Mae'r brentisiaeth hon yn darparu llwybr datblygu clir, gyda chyfleoedd i feithrin sgiliau a symud ymlaen i rolau mwy arbenigol neu lefel uwch yn y dyfodol.

Amdanat ti

Gallai’r rôl hon fod yn addas i chi os ydych chi'n frwdfrydig, yn drefnus ac yn awyddus i ddysgu. Nid oes angen profiad helaeth arnoch - mae gennym ddiddordeb yn eich potensial, eich agwedd a’ch parodrwydd i ddatblygu.

Dylai fod gennych sgiliau cyfathrebu da a dylech allu defnyddio systemau digidol a rhaglenni Microsoft Office yn gyfforddus (neu'n barod i ddod yn gyfforddus yn eu defnyddio). Mae'r rôl yn gofyn am sylw i fanylion, y gallu i reoli tasgau'n gywir, cadw cyfrinachedd a chymryd agwedd hyblyg at waith, tra'n gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.

Byddai diddordeb mewn datblygu sgiliau gweinyddol, gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli gwybodaeth neu gymorth digidol yn fuddiol, ynghyd ag ymrwymiad i weithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig.

Gwybodaeth Ychwanegol

Dechreuwch Eich Gyrfa gyda Ni

Ydych chi'n awyddus i ddechrau eich gyrfa mewn rôl gefnogol lle gallwch ddysgu, tyfu a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol?

Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i ymuno â'n Tîm Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol fel Prentis. Byddwch yn ennill profiad ymarferol ar draws ystod eang o weithgareddau gweinyddol a gwasanaeth cwsmeriaid tra’n gweithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig.

Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth a'r cymhwyster yn llwyddiannus, efallai y bydd cyfle i symud ymlaen i rôl Hyfforddai/Gweinyddwr o fewn y tîm, yn amodol ar berfformiad, ymddygiad ac argaeledd rôl addas. Mae hon yn brentisiaeth tymor penodol am 18 mis, sy'n darparu sgiliau a phrofiad gwerthfawr i’ch helpu i ddatblygu eich gyrfa.

Yng Nghyngor Bro Morgannwg, rydym wedi ymrwymo i'ch cefnogi i ddatblygu eich sgiliau, eich hyder a'ch gyrfa yn y dyfodol, ni waeth o ble rydych chi'n dechrau.


Gwybodaeth Ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Lyndsey Richards
07974814635
lrichards@valeofglamorgan.gov.uk

Gweler y disgrifiad swydd a’r fanyleb person ynghlwm am ragor o wybodaeth.

Prentis Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol 28 awr - Dros Dro / Am Gyfnod Penodedig employer: Vale of Glamorgan Council

Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.

V

Contact Details:

Vale of Glamorgan Council Recruitment Team