At a Glance
- Tasks: Lead meaningful change in Learning and Skills, focusing on sustainable financial futures for schools.
- Company: Vale of Glamorgan Council, dedicated to creating learning opportunities for all ages.
- Benefits: Inclusive recruitment process, opportunity to influence key decisions, and make a lasting difference.
- Other info: Join us to develop others and embrace new ideas in a supportive environment.
- Why this job: Shape the future of education and community learning while fostering collaboration and innovation.
- Qualifications: Strong financial acumen, strategic thinking, and experience in complex leadership roles.
The predicted salary is between 54000 - 66000 £ per year.
Amdanom ni
Yng Nghyngor Bro Morgannwg, mae ein Cyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau yn ymwneud â chreu cyfleoedd i bobl o bob oed ddysgu, datblygu a ffynnu. O gefnogi plant a phobl ifanc drwy addysg i agor drysau drwy ddysgu cymunedol, llyfrgelloedd, y celfyddydau a diwylliant, mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth ledled y Fro bob dydd. Rydym yn falch o'r hyn rydym yn ei gyflawni ochr yn ochr â'n hysgolion, ein partneriaid a'n cymunedau. Rydym hefyd yn uchelgeisiol am y dyfodol. Rydym yn wynebu heriau ariannol sylweddol, yn enwedig yn ein hysgolion, ac wedi ymrwymo i ddod o hyd i atebion cynaliadwy sy'n diogelu cyfleoedd addysgol ac yn cefnogi gwelliant parhaol. Dan arweiniad Bro 2030, Cymunedau Cryf â Dyfodol Disglair, a'n gwerthoedd Agored, Gyda'n gilydd, Uchelgeisiol a Balch, rydym yn meithrin diwylliant lle mae cydweithio, tosturi a syniadau newydd yn ein helpu i wneud gwahaniaeth.
Ynglŷn â'r rôl
Dyma gyfle i arwain newid ystyrlon ar draws Dysgu a Sgiliau, gyda blaenoriaeth glir: helpu ysgolion i adeiladu dyfodol ariannol cynaliadwy. Mae diffygion ariannol ysgolion yn peri risg gorfforaethol sylweddol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda phenaethiaid, cyrff llywodraethu ac uwch gydweithwyr i gryfhau cynllunio ariannol, datblygu cynlluniau gwella credadwy a chefnogi trawsnewid sy'n rhoi dysgwyr wrth wraidd penderfyniadau. Nid lleihau costau yn unig yw'r nod. Mae'n ymwneud â meithrin hyder a gallu ariannol, gwneud dewisiadau gwybodus a sicrhau gwelliannau parhaol. Byddwch hefyd yn darparu arweinyddiaeth strategol ar draws dysgu cymunedol, llyfrgelloedd, y celfyddydau a diwylliant, gan gysylltu gwasanaethau a phartneriaethau i ehangu cyfleoedd ledled y Fro. Fel Pennaeth Gwasanaeth parhaol, cewch gyfle i lywio newid hirdymor, dylanwadu ar benderfyniadau pwysig a helpu ysgolion a chymunedau i ffynnu.
Amdanat ti
Rydym yn chwilio am uwch arweinydd sydd â barn ariannol gadarn, meddwl strategol a gallu gwirioneddol i ddod â phobl ynghyd. Bydd gennych brofiad sylweddol o arwain mewn sefydliad cymhleth, a hanes o wella cynaliadwyedd ariannol, arwain trawsnewid a gwneud penderfyniadau cadarn am adnoddau. Byddwch yn gallu meithrin ymddiriedaeth, dylanwadu heb ddibynnu ar awdurdod ffurfiol a chydweithio'n adeiladol gydag ysgolion, cyrff llywodraethu neu bartneriaid tebyg sy'n gweithredu'n annibynnol. Byddwch yn cyfathrebu materion cymhleth yn glir, yn deall materion gwleidyddol a sefydliadol sensitif ac yn cydbwyso her adeiladol ag empathi a chefnogaeth. Yn anad dim, byddwch yn arweinydd cydweithredol a thosturiol sy'n datblygu eraill, yn croesawu syniadau newydd ac yn rhannu ein hymrwymiad i wneud gwahaniaeth parhaol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dyddiad cau: 6 Rhagfyr 2026
Cyfweliadau cam cyntaf: 14 Rhagfyr 2026
Cyfweliadau cam olaf: 22 Rhagfyr 2026
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Liz Jones, Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau
E-bost: elizjones@valeofglamorgan.gov.uk
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl cyn gwneud cais, byddem yn falch o siarad â chi. Rydym wedi ymrwymo i broses recriwtio gynhwysol. Os oes angen addasiadau rhesymol neu gymorth arnoch i gymryd rhan mewn unrhyw gam o'r broses, rhowch wybod i ni. Gweler y Pecyn Recriwtio atodedig, sy'n cynnwys y proffil rôl a'r fanyleb person lawn, am ragor o wybodaeth am y cyfle.
Pennaeth Strategaeth, Dysgu Cymunedol a Adnoddau employer: Vale of Glamorgan Council
Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.