Amdanom ni
Mae ein hysgol yn Ysgol Gynradd Gymunedol gyda Meithrinfa ynghlwm. Mae gennym Fwrdd Llywodraethwyr cryf a chefnogol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Bro Morgannwg, rhieni, y gymuned leol a staff. Rydym yn gosod safonau uchel iawn drwy’r ysgol gyfan ac yn cynnig ystod eang o brofiadau a chyfleoedd i'n disgyblion.
Mae ein hysgol yn ffodus o fod wedi ei lleoli mewn man gwledig hyfryd, wedi'i amgylchynu gan dir fferm, cefn gwlad a'r arfordir. Rydym yn gwasanaethu'r pentref lleol a'r ganolfan Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan.
Mae cymuned yr ysgol gyfan yn gweithio mewn partneriaeth i greu amgylchedd dysgu disglair, croesawgar ac ysgogol i ysbrydoli a chefnogi ein cwricwlwm.
Rydym yn annog polisi drws agored yn Ysgol Gynradd Sain Tathan ac yn croesawu cyfranogiad rhieni bob amser. Rydym yn gwerthfawrogi ein disgyblion i gyd ac yn credu mai ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod eu cyfnod yn yr ysgol yn werth chweil ac yn rhoi boddhad.
Mae gan ein hysgol ethos cynnes, cyfeillgar a chroesawgar iawn lle rydym yn sicrhau bod y disgyblion i gyd yn teimlo eu bod yn derbyn gofal ac yn ddiogel, a bod eu lles yn flaenllaw yn ein holl bolisïau a gweithdrefnau.
Uchelgeisiol - Meddwl, cofleidio ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored - Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn.
Gyda'n Gilydd - Gweithio gyda'n gilydd fel tîm sy'n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, yn parchu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i wasanaethau o safon.
Balch - Balch o Fro Morgannwg; yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg
Ynglŷn â'r rôl
Manylion Tâl: PCG 8 (Lefel 3) £27,709 - £29,524 pro rata / £14.36 - £15.31 p/h
Oriau Gwaith / Wythnosau’r Flwyddyn / Patrwm Gwaith: 16.5 Awr yr wythnos / 39 wythnos y flwyddyn / bob dydd yn ystod y tymor (yn amodol ar newid yn dibynnu ar anghenion yr ysgol)
Prif Weithle: Ysgol Gynradd Sain Tathan
Disgrifiad:
- Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad at ddysgu - gallai hyn gynnwys y rheiny y mae angen gwybodaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol neu ofal personol arnynt.
- Gweithio o dan arweiniad y tîm addysgu a/neu dîm arwain yr ysgol ac o fewn system oruchwylio y cytunwyd arni i gyfrannu at gylch cynllunio’r athrawon i sicrhau bod pob disgybl yn cael mynediad cyfartal at ddysgu.
Amdanat ti
Dylai'r CCD fod â chymhwyster priodol:
- Sgiliau rhifedd/llythrennedd da iawn.
- NVQ 3 Cynorthwywyr Addysgu neu gymhwyster cyfatebol.
- Hyfforddiant cymorth cyntaf priodol.
Dylai’r Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu fod â gwybodaeth a dealltwriaeth o:
- Sut i gefnogi plant o ran llythrennedd a rhifedd.
- Sut i gefnogi disgyblion ADY (ASA/ ADCG).
- Sut mae plant yn dysgu a sut i’w hysgogi.
- Egwyddorion datblygu plant a’r broses ddysgu.
- Egwyddorion rheoli ymddygiad cadarnhaol.
- Prosesau diogelu.
Bydd y Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu yn gallu:
- Gweithio gydag unigolyn neu grŵp.
- Atgyfnerthu pwyntiau addysgu yn ystod mewnbwn gan yr athro.
- Dangos esiampl o ymddygiad derbyniol.
- Defnyddio sgiliau/ profiad/ hyfforddiant arbenigol (cwricwlaidd/ dysgu) i gynorthwyo disgyblion.
- Cynorthwyo i ddatblygu Cynlluniau Datblygu Unigol a’u rhoi ar waith.
- Ateb anghenion personol y disgyblion a gweithredu rhaglenni personol cysylltiedig, gan gynnwys rhai cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, defnyddio’r tŷ bach, bwydo a symudedd, gan roi meddyginiaeth yn ôl y gofyn.
Bydd y Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu:
- Yn dangos ymagwedd ddigynnwrf.
- Yn cynnal cyfrinachedd.
- Yn meddu ar natur gydymdeimladol.
- Yn frwdfrydig, yn egnïol ac yn gweithio’n galed.
- Yn gallu addasu i wahanol sefyllfaoedd.
- Yn dangos blaengaredd yn yr ystafell ddosbarth.
- Yn angerddol am weld plant yn gwneud cynnydd ym mhob agwedd ar eu bywydau.
- Yn meddu ar synnwyr digrifwch.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dychwelwch ffurflenni cais i Ysgol Gynradd Sain Tathan – drwy’r post neu ar e-bost (loedavies@valeofglamorgan.gov.uk at sylw Mrs L Davies (Pennaeth Dros Dro)
Dyddiad cau: 26/9/2026
Llunio Rhestr Fer: 28/9/2026
Cyfweliadau – 2/10/2026
Cyfeiriwch at ddisgrifiad swydd / manyleb person am fwy o wybodaeth
LSA Lefel 3 (Dros Dro) Rhan-amser - Ysgol Gynradd Llansanffraid employer: Vale of Glamorgan Council
Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.