At a Glance
- Tasks: Engage with young people, facilitating activities and discussions to support their development.
- Company: Join the Youth Service of Vale of Glamorgan Council, dedicated to empowering youth.
- Benefits: Competitive pay, pension scheme, and opportunities for professional development.
- Other info: Dynamic team environment with opportunities for growth and training.
- Why this job: Make a positive impact in your community while gaining valuable experience.
- Qualifications: Experience in youth work and a Level 3 qualification in Youth and Community Work.
The predicted salary is between 15.97 - 15.97 £ per hour.
Amdanom ni
Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau yng Nghyngor Bro Morgannwg. Rydym yn cefnogi pobl ifanc 11-25 oed drwy gyfleoedd addysgol anffurfiol a rhai nad ydynt yn ffurfiol i'w cefnogi i gyflawni eu potensial llawn. Rydym yn darparu amgylcheddau diogel i bobl ifanc fwynhau eu hunain a chwrdd ag eraill; i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi; i gael gwybodaeth a chymorth; a dysgu sgiliau newydd.
Ein gwerthoedd yw:
- Uchelgeisiol – Meddwl gyda golwg ar y dyfodol, gan groesawu ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
- Agored – Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau yr ydyn ni’n eu gwneud.
- Gyda’n gilydd – Gweithio gyda’n gilydd fel tîm sy’n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a phartneriaid, sy’n parchu amrywiaeth ac sydd wedi ymrwymo i wasanaethau o safon.
- Balch – Balch o Fro Morgannwg; balch i wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.
Ynglŷn â'r rôl
Manylion Cyflog: Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid Pwynt JNC 12 £30,774 y flwyddyn (pro-rata) £15.97 yr awr
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 3 awr yr wythnos, 40 wythnos yn gweithio 1 noson yr wythnos, ambell i benwythnos a phreswylfeydd dros nos.
Prif Weithle: Mae'r swyddfa yn y Swyddfeydd Dinesig, Y Barri. Bydd angen teithio i ddarpariaethau ieuenctid ledled Bro Morgannwg, ond byddwch yn gallu rhannu cludiant, defnyddio ceir cronfa y Cyngor a/neu hawlio costau teithio.
Rheswm am gynnig Swydd Dros Dro: Wedi'i ariannu dros dro tan 31 Mawrth 2027. Rydym yn chwilio am gydweithwyr i ymuno â'r gwasanaeth ieuenctid i ehangu ein gwasanaethau i bobl ifanc o fewn clybiau ieuenctid, addysg awyr agored a Gwobr Dug Caeredin. Mae pob swydd sydd ar gael ar gyfer 1 noson yr wythnos am 3 awr, gan weithio yn ystod tymor ysgol ynghyd ag wythnos gyntaf gwyliau'r haf. Byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu llwybr gyrfa ystyrlon gyda'n rhaglen hyfforddi. Byddwch yn mwynhau manteision a buddion bod yn rhan o gymuned Cyngor Bro Morgannwg ac yn sicrhau eich dyfodol gyda'n cynllun pensiwn cynhwysfawr.
Rheolir y gwasanaeth hwn gan Wasanaeth Ieuenctid y Fro ac mae wedi'i leoli yn yr adran Dysgu a Sgiliau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn cyfleoedd DPP cynhwysfawr, datblygu sgiliau newydd yn y sector gwaith ieuenctid, yn rhan o dîm deinamig sy'n creu dylanwadau cadarnhaol o fewn y gymuned leol ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Bydd ymgeiswyr yn gymwys i ymuno â'r Cynllun Pensiwn Athrawon.
Amdanat ti
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad blaenorol o waith ieuenctid wyneb yn wyneb mewn amrywiaeth o leoliadau.
- Bod yn gyfarwydd â’r offer a’r technegau a ddefnyddir i gasglu gwybodaeth ac adborth gan bobl ifanc.
- Mae profiad o hwyluso sesiynau grŵp i arwain gweithgareddau a thrafodaethau grŵp yn hanfodol.
- Gwybodaeth am offer gwerthuso i asesu effaith gweithgareddau ieuenctid.
- Sgiliau i greu adnoddau neu ddeunyddiau sy'n cefnogi gweithgareddau a phrosiectau ieuenctid.
- Dylai fod gan ymgeiswyr gymhwyster cydnabyddedig mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, o leiaf Lefel 3.
- Dylai’r ymgeisydd fod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid neu Weithiwr Ieuenctid.
- Trwydded yrru ddilys y DU.
Mae'r cymwysterau a'r profiadau hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod y gweithiwr ieuenctid yn barod i ymgysylltu â phobl ifanc yn effeithiol, gan fynd i'r afael ag ymddygiad heriol, a chyfrannu'n gadarnhaol at eu datblygiad a'u lles. Os nad ydych yn siŵr a yw eich cymhwyster neu brofiad yn bodloni'r gofynion, cysylltwch â ni i drafod cyn cyflwyno eich cais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Angen gwiriad gan y GDG: Oedolion a Phlant Manwl gyda gwahardd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Kelly Hawkes kmhawkes@valeofglamorgan.gov.uk 07966847974. Mae’n ofyniad statudol bod ymgeiswyr ar gyfer y swyddi hyn wedi’u cofrestru fel Gweithiwr Ieuenctid Proffesiynol gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn iddynt allu dechrau gweithio i’r Gwasanaeth Ieuenctid. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, mae mwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i gofrestru, ar gael yn www.cga.cymru. Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person ynghlwm am fwy o wybodaeth.
Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid 3 awr yn y nos 5.30-8.30pm - Dros Dro / Tymor Penodedig employer: Vale of Glamorgan Council
Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.