Gweithiwr Cymorth Gwasanaeth Dydd (35 awr/ 5 diwrnod)

Gweithiwr Cymorth Gwasanaeth Dydd (35 awr/ 5 diwrnod)

Full-Time On-site
V

Amdanom ni

O fewn Gwasanaethau Dydd Anabledd Dysgu, rydym yn cefnogi oedolion ag anabledd dysgu a allai hefyd fod ag anghenion cymhleth i gael mynediad at ystod eang o gyfleoedd yn ystod y dydd, a all fod yn seiliedig ar waith, gwirfoddoli, addysg neu hamdden. Rydym yn cynnig cymorth sy'n canolbwyntio ar y person i wneud y mwyaf o botensial, cynyddu annibyniaeth a chyflawni canlyniadau lles.

Uchelgeisiol: Meddwl, cofleidio ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored: Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn.
Gyda'n Gilydd: Gweithio gyda'n gilydd fel tîm sy'n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, yn parchu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i wasanaethau o safon.
Balch: Balch o Fro Morgannwg; yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.

Ynglŷn â'r rôl

Manylion Cyflog: Gradd 4, SCP 6-7 , £26,847 - £27,274, £13.92 - £14.14
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 35 awr o ddydd Llun i ddydd Gwener
Prif Leoliad Gwaith: Y Barri, Woodlands a Thrysor O’Le

Disgrifiad: Byddwch yn cefnogi unigolion ag anabledd dysgu a allai fod ag anghenion cymhleth hefyd, i gymryd rhan mewn cyfleoedd dydd ystyrlon yn y gymuned ac yn y ganolfan wasanaeth, er mwyn eu galluogi i gyflawni eu canlyniadau lles. Bydd hyn yn cynnwys dyletswyddau gyrru, i gludo unigolion yn ddiogel i weithgareddau, yn unol â'u cynlluniau sy'n canolbwyntio ar y person. Bydd gofyn i chi roi sylw i anghenion gofal personol ac iechyd unigolion. Byddwch hefyd yn cynnal cofnodion ac yn helpu i lunio adroddiadau.

Amdanat ti

bydd angen i ti:

• Profiad o weithio gydag Oedolion ag Anableddau Dysgu
• Profiad o yrru cerbydau mawr, gyda pharodrwydd i yrru cerbydau wedi'u haddasu ar gyfer cadeiriau olwyn, pan fo angen
• Trwydded yrru ddilys lawn sy'n cwmpasu'r defnydd o gerbydau â llaw
• Profiad o ddiwallu anghenion gofal personol unigolion
• Safon addysg gyffredinol dda
• Sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
• Dibynadwy, hyblyg a sensitif

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwiriad DBS Angenrheidiol: Enhanced and Barred Adult
Trwydded Yrru: Mae'r swydd yn gofyn i chi yrru cerbydau wedi'u haddasu ar gyfer cadeiriau olwyn gyda thrwydded Adran 19. O ganlyniad, bydd angen i chi fod wedi dal trwydded yrru ddilys lawn sy'n cwmpasu'r defnydd o gerbydau â llaw am o leiaf 2 flynedd a bod yn 21 oed neu'n hŷn.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Isla Kimmins - ikimmins@valeofglamorgan.gov.uk / 07927678274

Ross Asquith - rasquith@valeofglamorgan.gov.uk / 07927678251

Poppy Murray - pmurray@valeofglamorgan.gov.uk / 07927678259

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth.

Gweithiwr Cymorth Gwasanaeth Dydd (35 awr/ 5 diwrnod) employer: Vale of Glamorgan Council

Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.

V

Contact Details:

Vale of Glamorgan Council Recruitment Team