Amdanom ni
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o Dîm Derbyn ac Asesu aml-ddisgyblaethol a phrysur, yn cynnig ymateb cyflym i Geisiadau am Wybodaeth, Cyngor a Chymorth.
Uchelgeisiol - Meddwl, cofleidio ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored - Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn.
Gyda'n Gilydd - Gweithio gyda'n gilydd fel tîm sy'n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, yn parchu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i wasanaethau o safon.
Balch - Balch o Fro Morgannwg; yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg
Ynglŷn â'r rôl
Manylion am gyflog: Gradd 8, SCP 26 - 30 £38,510 - £42,123 / Gradd 9, SCP 31 - 35 £43,149 - £47,665
Cyflog wrth benodi’n dibynnu ar gymwysterau a phrofiad fel y penderfynir gan y swyddog penodi. Nid oes cynnydd awtomatig o Radd 8 i Radd 9.
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
Prif Waith: Canolfan Gyswllt Un Fro, Y Barri
Disgrifiad:
Mae’r swydd Gweithiwr Cymdeithasol hon yn rôl ddeinamig a chyffrous gyda llwyth gwaith amrywiol a difyr. Bydd angen sgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i reoli blaenoriaethau sy’n newid ac yn groes i’w gilydd. Byddai profiad o weithio mewn tîm ymyrraeth pwynt cyswllt cyntaf/argyfwng yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol.
Amdanat ti
Bydd Angen:
- Gradd/Diploma cydnabyddedig neu gymhwyster cyfatebol mewn Gwaith Cymdeithasol h.y. Gradd, DipSW, CQSW ac ati.
- Cofrestru â’r Cyngor Gofal
- Profiad o weithio gydag oedolion sy’n agored i niwed drwy salwch, anabledd neu eiddilwch oherwydd eu hoedran
- Asesu defnyddwyr a gofalwyr gwasanaeth oedolion.
- Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau statudol/gwirfoddol i hyrwyddo annibyniaeth defnyddwyr gwasanaeth
Gwybodaeth Ychwanegol
Angen Gwiriad DBS: Oedolyn Wedi'i Wella a Gwaharddedig
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Sam Smith – 01446 700111 sdsmith@valeofglamorgan.gov.uk
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.
Gweithiwr Cymdeithasol employer: Vale of Glamorgan Council
Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.