Amdanom ni
Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau yng Nghyngor Bro Morgannwg. Rydym yn cefnogi pobl ifanc 11-25 oed drwy gyfleoedd addysgol anffurfiol a rhai nad ydynt yn ffurfiol i'w cefnogi i gyflawni eu potensial llawn. Rydym yn darparu amgylcheddau diogel i bobl ifanc fwynhau eu hunain a chwrdd ag eraill; i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi; i gael gwybodaeth a chymorth; a dysgu sgiliau newydd.
Uchelgeisiol – Meddwl gyda golwg ar y dyfodol, gan groesawu ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored – Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau yr ydyn ni’n eu gwneud.
Gyda’n gilydd – Gweithio gyda’n gilydd fel tîm sy’n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a phartneriaid, sy’n parchu amrywiaeth ac sydd wedi ymrwymo i wasanaethau o safon.
Balch – Balch o Fro Morgannwg; balch i wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.
Ynglŷn â'r rôl
Manylion Cyflog: Gradd PGC 14-19 £30,515 – £33,119 y flwyddyn – (£15,275 - £16,559 pro rata) (£15.82 - £17.17 yr awr)
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: Swydd ran amser am 18.5 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn yw hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio rhwng 8:30am a 8.30pm, gan gynnwys gweithio gyda'r nos ac weithiau ar benwythnosau. Bydd hyn yn cael ei wneud trwy oriau gwaith hyblyg, gyda golwg ar ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio 2.5 diwrnod yr wythnos.
Prif Weithle: O’r swyddfa yn y Swyddfeydd Dinesig, Y Barri, ond yn gweithio ledled Bro Morgannwg.
Rheswm am gynnig Swydd Dros Dro: Mae hon yn gyflogaeth dros dro oherwydd cyllid grant.
Disgrifiad:Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol o fewn y prosiect a ariennir gan Teuluoedd yn Gyntaf ac a weithredir gan y Gwasanaeth Ieuenctid. Eich rôl chi fydd darparu cymorth personol i blant 8-11 oed gyda chymorth lles cyffredinol yn seiliedig ar y pum llwybr at les. Bydd hyn yn cael ei gyflawni'n bennaf trwy waith grŵp mewn lleoliadau yn y gymuned, a rhywfaint o waith 1:1 ym Mro Morgannwg. Bydd y gefnogaeth y bydd y plant yn ei derbyn yn eu galluogi nhw i osod a chyrraedd nodau i wella eu hiechyd a'u lles meddyliol/corfforol eu hunain, tra'n helpu i ddatblygu gwydnwch a hunan-barch. Yn gyfnewid, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn hawl gwyliau blynyddol hael, cofrestru ar Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gweithio hybrid a hyblyg, mynediad at fuddion staff a'r cyfle i ymuno â grwpiau fel rhwydwaith LHDTC+ GLAM ar gyfer cydweithwyr a chynghreiriaid.
Amdanat ti
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad o waith wyneb yn wyneb gyda phlant (8 oed a hŷn) a allai fod â rhwystrau i ymgysylltu.
- Profiad o roi cymorth 1:1 ac mewn grŵp.
- Profiad o weithio gyda theuluoedd.
- Gweithio mewn dull sy’n grymuso ac yn dangos empathi, gyda phlant sydd angen cymorth lles.
- Gwybodaeth am dechnegau deallusrwydd emosiynol
Gallu gweithio'n annibynnol gyda goruchwyliaeth o bell i ddarparu gwasanaeth lles i blant
Gwybodaeth Ychwanegol
Angen Gwiriad GDG: Manwl Plant gyda gwahardd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Jason Harvey jaharvey@valeofglamorgan.gov.uk 07739 192404
Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person sy’n atodedig am fwy o wybodaeth.
Gweithiwr Achos Lles Plant (18.5) 2 swydd ar gael - Dros Dro / Amser Penodol (31 Mawrth 2028) employer: Vale of Glamorgan Council
Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.