Amdanom ni
Mae Gwasanaeth Gofal HIrdymor Bro Morgannwg yn asesu ac yn cefnogi pobl a’u gofalwyr sydd ag anghenion hirdymor am ofal a chymorth. Mae’r tîm yn ymateb i unigolion y mae eu hanghenion o bosibl yn gymhleth neu’n gofyn am fonitro a chymorth parhaus er mwyn cyflawni eu canlyniadau lles. Mae’r tîm yn cefnogi pobl lle nad yw gwasanaethau tymor byr yn briodol.
Mae’r tîm hefyd yn cynnwys y tîm Adolygu sy’n cwblhau adolygiadau a amserlennir er mwyn sicrhau bod trefniadau gofal a chymorth a reolir yn parhau’n gymwys a bod canlyniadau yn cael eu cyflawni.
Mae profiad o weithio gydag Oedolion yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol
Uchelgeisiol - Meddwl, cofleidio ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored - Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn.
Gyda'n Gilydd - Gweithio gyda'n gilydd fel tîm sy'n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, yn parchu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i wasanaethau o safon.
Balch - Balch o Fro Morgannwg; yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg
Ynglŷn â'r rôl
Manylion am gyflog:Grade 8 SCP 26-30 £38,510 - £42,123/ Grade 9 SCP 31-35 £43,149 - £47,665
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
Patrwm Gweithio: I gael ei gytuno
Prif Waith: Civic Offices, Y Barri
Mae’r rôl yn cynnwys ymgymryd ag asesiadau ar gyfer gofal a chymorth, asesiadau CHC a gweithio gydag unigolion y mae eu hanghenion o bosibl yn gymhleth neu’n gofyn am fonitro a chymorth parhaus.
Amdanat ti
Bydd angen:
- Profiad o weithio gydag oedolion sy’n agored i niwed drwy salwch, anabledd neu eiddilwch oherwydd eu hoedran
- Asesu defnyddwyr a gofalwyr gwasanaeth oedolion.
- Deall salwch, anabledd ac eiddilwch oherwydd oedran a’u heffaith ar unigolion/gofalwyr/teulu
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol e.e. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, Mesurau iechyd meddwl (Cymru) 2010, Deddf Galluedd Meddyliol, Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Deddf Iechyd Meddwl 1983
- Gwybodaeth am faterion a gweithdrefnau diogelu o ran oedolion
- Safon addysg gyffredinol dda.
- Gradd/diploma cydnabyddedig neu gymhwyster cyfatebol mewn Gwaith Cymdeithasol e.e.
- Gradd, DipSW, CQSW ac ati.
- Cofrestru gyda gofal cymdeithasol Cymru.
Gwybodaeth Ychwanegol
Angen Gwiriad DBS: Oedolyn Wedi'i Wella a Gwaharddedig
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Jude McManus 01446 725100
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.
Gwasanaeth Gofal Tymor Hir Gweithiwr Cymdeithasol employer: Vale of Glamorgan Council
Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.