Amdanom ni
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â'r Tîm Cynnal a Chadw Cerbydau a Fflyd fel Ffitiwr Cerbydau Modur. Bydd y rôl yn ymwneud yn bennaf â gweithio’n rhan o dîm bach sy'n gwneud gwaith wedi'i gynllunio a heb ei drefnu ar Fflyd cerbydau a pheiriannau'r Cyngor.
Uchelgeisiol - Meddwl, cofleidio ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored - Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn.
Gyda'n Gilydd - Gweithio gyda'n gilydd fel tîm sy'n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, yn parchu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i wasanaethau o safon.
Balch - Balch o Fro Morgannwg; yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.
Am y rôl
Manylion y Cyflog: Gradd 7 SCP 20 - 25 £33,673 - £37,563 Pro Rata
£17.45 - £19.47 Yr Awr
Oriau Gwaith/Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos
Patrwm shifft: Llun – Iau: 6.30 am – 2.30pm neu 2pm i 10pm;
Dydd Gwener: 6.30am – 2.00pm neu 2pm – 9.30pm
Prif Weithle: Depo’r Alpau, Gwenfô, CF5 6AA
Disgrifiad:
Bydd yr unigolyn yn gwneud neu'n cynorthwyo gwaith atgyweirio ar ystod lawn o geir, offer a chyfarpar masnachol ysgafn a thrwm, fydd yn cynnwys gwneud diagnosis o ddiffygion, archebu rhannau, paratoi cerbydau'n gywir ar gyfer MOT a cwblhau gwaith i safonau DVSA.
Amdanoch chi
Bydd angen y canlynol arnoch:
- NVQ Lefel 3 neu Astudiaethau Rhan 1, 2 a 3 Crefft Cerbydau Modur City and Guilds neu gyfatebol.
- Profiad o ran gweithrediadau ac arferion gwaith gweithdy atgyweirio cerbydau a pheiriannau’r Cyngor.
- Profiad o ofynion hanfodol wrth baratoi cerbydau ar gyfer prawf MOT.
- Profiad o arolygu cerbydau i fodloni'r safonau a bennir gan DVSA
- Medrus yn nisgyblaethau trwsio cerbydau nwyddau ysgafn a thrwm.
- Deiliad tystysgrif profwr MOT ddilys yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr neu'r gallu i ennill tystysgrif.
- Ymrwymiad i ymgymryd â hyfforddiant pellach ar gyfer datblygiad proffesiynol a gwella gwybodaeth am dechnolegau cerbydau allyriadau isel iawn (ULEV).
- Trwydded Yrru Lawn o leiaf Grŵp B.
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Enfys Griffiths – Rheolwr Fflyd a Chynnal a Chadw Cerbydau (029 20673132 / eagriffiths@valeofglamorgan.gov.uk)
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.
Ffitwr Cerbyd Modur - 2 swydd amser llawn ar gael employer: Vale of Glamorgan Council
Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.