Amdanom ni
Mae'r swydd hon o fewn y tîm Cyfrifon Taladwy yn y Gwasanaeth Trysorlys.
Uchelgeisiol - Meddwl, cofleidio ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored - Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn.
Gyda'n Gilydd - Gweithio gyda'n gilydd fel tîm sy'n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, yn parchu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i wasanaethau o safon.
Balch - Balch o Fro Morgannwg; yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.
Ynglŷn â'r rôl
Manylion cyflog: Gradd 4, PCG 6-7, £26,847 - £27,274 y.f.
Oriau Gwaith: Dydd Llun i ddydd Gwener 37 awr yr wythnos
Patrwm Gweithio: Dydd Llun i Ddydd Iau 8.30am – 5.00pm a Dydd Gwener 8.30am – 4.30pm
Prif Le Gwaith: Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, y Barri.
Disgrifiad:
Bydd y rôl yn cynnwys gweinyddu taliadau cywir ac amserol ar ran y Cyngor.
Rhoi cyngor a gwybodaeth am Gynllun y Diwydiant Adeiladu
Delio ag ymholiadau ysgrifenedig, dros y ffôn a phersonol gan Gredydwyr ac
Adrannau
Amdanat ti
Bydd angen y canlynol arnoch:
• Profiad o weinyddu arian
• Brofiad swyddfa
• Profiad o weithio at derfynau amser heriol
• Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol (ar lafar ac yn ysgrifenedig)
• Sgiliau rhifedd a llythrennedd gwych
• Y gallu i flaenoriaethau a rhoi sylw i fanylion
• Sgiliau trefnu rhagorol
• Defnydd o systemau TG
• Pum TGAU (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg, gradd C o leiaf) neu gyfwerth
Y gallu i wneud y canlynol:
• Gweithio a chyfrannu’n effeithiol at system dîm
• Cyfathrebu â phobl ar bob lefel a gweithio gyda nhw
• Blaenoriaethu llwyth gwaith, bod yn hyblyg wrth ddelio â thasgau a dangos agwedd 'gallu gwneud'
• Gweithio gyda hyder gan weithio ar eich menter eich hun
• Gweithio’n effeithiol ac yn bwyllog dan bwysau
Gwybodaeth Ychwanegol
Angen Gwiriad DBS: Sylfaenol
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Christina Delaney (CMDelaney@valeofglamorgan.gov.uk)
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach
Cynorthwyydd Dyledion i Dalw - Dros Dro / Tymor Penniedig (HYD AT 2 FLYNEDD) employer: Vale of Glamorgan Council
Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.