Amdanom ni
Ydych chi eisiau bod yn rhan o gyfnod cyffrous o dwf mewn ysgol flaengar ac arloesol?
Mae Ysgol y Deri yn awyddus i recriwtio aelod llawn amser o’r tîm CALU am 37 awr yr wythnos ar eu safle newydd yn Derw Newydd yn y Barri, ysgol sy'n darparu ar gyfer plant nad ydyn nhw’n gallu mynychu ysgol brif ffrwd oherwydd anghenion cymdeithasol, emosiynol a/neu iechyd meddwl.
Dyma gyfle cyffrous i fod yn rhan o dîm sy'n datblygu dulliau a darpariaeth ar gyfer disgyblion sydd wedi dioddef trawma yn aml, sydd wedi ymddieithrio ac wedi eu gwahardd o ysgolion eraill ac angen gofal. Rydym yn darparu amgylchedd dysgu diogel lle mae disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi bob cam o'r ffordd.
Mae gennym gyfleusterau o’r radd flaenaf ac rydyn ni’n gweithio gyda phob plentyn fel unigolyn gan sicrhau bod eu hanghenion addysgol a therapiwtig yn cael eu bodloni fel y gallan nhw ffynnu yn ein hysgol a phan fyddan nhw’n gadael.
Ydych chi'n ymroddedig i wneud gwahaniaeth ond yn teimlo’n rhwystredig eich bod yn aml yn cael eich atal rhag cyflawni hynny? Os felly, efallai bod hwn yn gyfle delfrydol i chi!
Dyma gyfle cyffrous i fod yn rhan o dîm sy'n rhoi disgyblion yng nghanol popeth rydym yn ei wneud.
Uchelgeisiol - Meddwl, cofleidio ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored - Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn.
Gyda'n Gilydd - Gweithio gyda'n gilydd fel tîm sy'n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, yn parchu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i wasanaethau o safon.
Balch - Balch o Fro Morgannwg; yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg
Ynglŷn â'r rôl
Manylion Tâl: Gradd 6 PCG (14 - 19) £30,515 - £33,119 + lwfans AAA Pro rata
Oriau Gwaith / Wythnosau’r Flwyddyn / Patrwm Gwaith: Llawn Amser 32.5 awr (dydd Llun, dydd Mercher, dydd Gwener 8am – 3.30pm. Dydd Mawrth a dydd Iau 8am – 4.30pm) Yn ystod y tymor yn unig.
Prif Weithle: Ysgol y Deri, Derw Newydd, Y Barri
Disgrifiad:
Oherwydd ehangu, mae gan Ysgol y Deri ddiddordeb mewn recriwtio Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch dynamig ac egnïol i ymuno â'n tîm anhygoel. Rydym yn credu na ddylai unrhyw un golli’r ysgol ac y dylai’r ysgol fod yn feiddgar.
Rydym yn chwilio am CALU sy'n fodlon ac yn gallu troi ei law at amrywiaeth o feysydd a gweithgareddau Cwricwlwm; rhywun sy'n gallu helpu ein disgyblion i ymgysylltu a mwynhau profiadau sy’n rhoi diben i fywyd. Rhywun sy'n cydnabod pwysigrwydd cefnogaeth uchel a her uchel. Cysylltwch â ni os yw hyn yn eich disgrifio chi.
Er nad yw cefndir yn gweithio gyda disgyblion ag anghenion ychwanegol yn hanfodol, byddai dealltwriaeth o anghenion dysgwyr sydd ag ADY a/neu anghenion iechyd cymdeithasol, emosiynol a meddwl yn fanteisiol.
Amdanat ti
Bydd angen y canlynol arnoch:
Byddai’r swydd hon yn addas i rywun sy’n hoffi gweithio gyda phlant, rhywun sydd wrth eu bodd yn rhannu gwybodaeth a rhoi cymorth i blant ffynnu. Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â rhywbeth hollol wahanol, a theimlo cyffro o gael gwneud hynny. Mae'r rôl sydd ar gael yn cynnwys cefnogi ac addysgu grwpiau o ddisgyblion yn ogystal â sesiynau 1:1 ar draws ein cwricwlwm.
Rydym yn chwilio am rywun sydd wir eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc; i fod y gwahaniaeth. Rhywun sydd eisiau helpu ein myfyrwyr i gyflawni eu potensial trwy roi cyfle i newid; rhywun sy’n dawel hyderus; rhywun sy’n frwdfrydig heb anghofio’r angen am ffiniau. Allwch chi fod yn esiampl anhygoel yn Ysgol y Deri?
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus arfer ystafell ddosbarth ardderchog, gan gynnwys defnyddio TGCh, disgwyliadau uchel i ddisgyblion a pharodrwydd i weithio fel rhan o dîm ymroddedig sydd wedi ymrwymo i ddarparu'r cyfleoedd gorau posibl i'n holl ddisgyblion.
Angen gwiriad gan CGA: √
Gwiriad GDG yn Angenrheidiol: √ - Manwl a rhestr wahardd ar gyfer oedolion a phlant
Gwybodaeth Ychwanegol
Dyddiad Cau: 30ain Hydref 2026
Rhestru Fer: wythnos yn dechrau 2il Tachwedd 2026
Cyfweliadau: wythnos yn dechrau 9fed Tachwedd 2026
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Mat Sweeden msweeden@yyd.org.uk
Edrychwch ar ein gwefan, https://www.yyd.org.uk/ a'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol; Facebook – Ysgol Arbennig Ysgol Y Deri
Twitter - @YsgolYDeri @DeriYsgolPrim @yydsecondary
Dull Dychwelyd e.e. e-bost / dychwelyd i'r ysgol: humanresources@yyd.org.uk
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig am fwy o wybodaeth.
SYLWER: NID YDYM YN DERBYN CVs CWBLHEWCH FFURFLEN GAIS OS GWELWCH YN DDA
Cynorthwyydd Cymorth Dysgu Lefel Uwch (HLTA) - Ysgol Y Deri employer: Vale of Glamorgan Council
Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.