Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu LSA (Lefel 3) - Tîm Cefnogaeth Gwrando (30 awr) - Ysgol Gynradd Cogan

Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu LSA (Lefel 3) - Tîm Cefnogaeth Gwrando (30 awr) - Ysgol Gynradd Cogan

Full-Time On-site
V

Amdanom ni

Mae'r rôl hon o fewn Gwasanaeth Cymorth Clyw Bro Morgannwg, sy’n rhan o Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau Bro Morgannwg. Mae'r swydd wedi’i lleoli yn y Ganolfan Adnoddau Clyw yn Ysgol Gynradd Cogan, Penarth. Byddech yn rhan o dîm egnïol a chefnogol sy'n angerddol am addysg pobl ifanc fyddar.

Uchelgeisiol - Meddwl, cofleidio ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored - Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn.
Gyda'n Gilydd - Gweithio gyda'n gilydd fel tîm sy'n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, yn parchu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i wasanaethau o safon.
Balch - Balch o Fro Morgannwg; yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.

Ynglŷn â'r rôl

Manylion Tâl: Gradd 5, pwynt cefn 8-12 £27,709 - £29,542 Yn Rhannol £14.36 - £15.31Yr Awr.
Oriau gwaith: 30 awr, 5 niwrnod yr wythnos
Manylion tal: Gradd 5, pwynt 8-12 ar y Golofn Gyflog
Prif weithle: Canolfan Adnoddau Clyw Bro Morgannwg yn Ysgol Gynradd Cogan, Penarth

Disgrifiad:
Fel rhan o’r swydd, bydd angen helpu disgyblion sydd wedi colli’u clyw i gael mynediad i’r cwricwlwm drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu a’u galluogi i gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd ysgol. O ddydd i ddydd, mae hyn yn golygu cymorth yn y dosbarth i ddisgyblion unigol a gwaith un i un neu grŵp bach yn y Ganolfan Adnoddau. Mae'r disgyblion yn frwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac yn bleser gweithio gyda nhw.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion sy’n colli eu clyw ar draws camau cynnydd 1-3.

Efallai y bydd y rôl hefyd yn gofyn am gefnogi'r tîm Cymorth Clyw gyda gwaith allgymorth mewn ysgolion eraill ym Mro Morgannwg pan fo angen.

Amdanat ti

Bydd angen i chi fod â:

  • Dealltwriaeth o wahanol anghenion addysgol a chymdeithasol sydd gan ddisgyblion sydd wedi colli’u clyw ac anghenion dysgu ychwanegol ac effaith colli clyw ar ddysgu.
  • Profiad blaenorol a diweddar o weithio gyda phlant mewn ysgol uwchradd.
  • Gallu i gefnogi disgyblion sydd wedi colli’u clyw ar draws yr holl feysydd cwricwlwm.
  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Sgiliau dadansoddi a datrys problemau da.
  • Gallu gweithio’n annibynnol â blaengaredd, ond hefyd fel rhan o dîm.
  • Sgiliau trefnu da
  • Yn gallu ac yn barod i ddysgu sgiliau newydd
  • Gallu annog disgyblion i ddysgu’n annibynnol
  • Safon gyffredinol dda o addysg gan gynnwys TGAU gradd ‘C’ neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg o leiaf.
  • Yn barod i ymgymryd â hyfforddiant perthnasol yn ôl yr angen
  • Lefel 2 neu uwch mewn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (neu’n barod i ennill y cymhwyster hwn yn eich amser eich hun)
  • Bod yn barod i wneud gwaith allgymorth dan gyfarwyddyd Athro'r Byddar yn ôl y galw.

Gwybodaeth Ychwanegol

Oes angen gwiriad GDG: Plant wedi'u gwella a chloi
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Leanne James - Rheolwr ADY. lsjames@valeofglamorgan.gov.uk

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu LSA (Lefel 3) - Tîm Cefnogaeth Gwrando (30 awr) - Ysgol Gynradd Cogan employer: Vale of Glamorgan Council

Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.

V

Contact Details:

Vale of Glamorgan Council Recruitment Team