Amdanom ni
Uchelgeisiol - Blaengar, gan groesawu ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored - Yn agored i syniadau gwahanol ac yn atebol am y penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud.
Gyda’n gilydd - Gweithio gyda’n gilydd fel tîm sy’n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a phartneriaid, sy’n parchu amrywiaeth ac sydd wedi ymrwymo i wasanaethau o ansawdd.
Balch - Balch o Fro Morgannwg: balch i wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.
Ynglŷn â'r rôl
Manylion Tâl: £27,709 - £29,542 graddfa 5-8
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr o ddydd Llun i ddydd Gwener
Prif Weithle: Y Swyddfeydd Dinesig
Disgrifiad: Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yng Ngwasanaeth Datrysiadau Tai'r Cyngor, tîm ymroddedig, gweithgar a dyfeisgar iawn sy'n darparu cyngor a chymorth statudol i ystod o aelwydydd sy'n eu cael eu hunain yn ddigartref neu dan fygythiad o fod yn ddigartref ac a allai fod angen datrysiadau tai amgen. Prif gyfrifoldeb deiliad y swydd fydd atal digartrefedd, a chynorthwyo â lleihau'r ddibyniaeth ar lety brys.
Amdanat ti
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Cefndir o roi cyngor ac arweiniad i unigolion neu aelwydydd sy'n agored i niwed.
- Profiad o waith amlasiantaethol, gan gynnwys partneriaethau â’r gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, heddlu a sefydliadau’r sector gwirfoddol.
- Gwybodaeth am gyfraith tenantiaeth, hawliau a chyfrifoldebau landlordiaid/tenantiaid, a phrosesau meddiant.
- Dealltwriaeth o fudd-daliadau lles, Credyd Cynhwysol, a'u heffaith ar fforddiadwyedd tai.
- Gwybodaeth am achosion digartrefedd, ffactorau risg, a dulliau atal effeithiol.
- Dealltwriaeth o rôl cymorth trydydd sector, gwasanaethau argyfwng, a llwybrau tai awdurdodau lleol.
- Dealltwriaeth o asesiadau ariannol, cymorth cyllidebu, a materion sy'n gysylltiedig â dyledion.
Gwybodaeth Ychwanegol
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Ian Jones iljones@valeofglamorgan.gov.uk /Rebecca James
Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person sy’n atodedig am fwy o wybodaeth.
Cynorthwyydd Atal Digartrefedd - Dros Dro / Tymor Pennedig employer: Vale of Glamorgan Council
Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.