Ynglŷn â'r rôl
Dyma gyfle i arwain newid ystyrlon ar draws Dysgu a Sgiliau, gyda blaenoriaeth glir: helpu ysgolion i adeiladu dyfodol ariannol gynaliadwy.
Mae diffygion ariannol ysgolion yn peri risg gorfforaethol sylweddol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda phenaethiaid, cyrff llywodraethu ac uwch gydweithwyr i gryfhau cynllunio ariannol, datblygu cynlluniau gwella credadwy a chefnogi trawsnewid sy'n rhoi dysgwyr wrth wraidd penderfyniadau.
Nid lleihau costau yn unig yw'r nod. Mae'n ymwneud â meithrin hyder a gallu ariannol, gwneud dewisiadau gwybodus a sicrhau gwelliannau parhaol.
Byddwch hefyd yn darparu arweinyddiaeth strategol ar draws dysgu cymunedol, llyfrgelloedd, y celfyddydau a diwylliant, gan gysylltu gwasanaethau a phartneriaethau i ehangu cyfleoedd ledled y Fro.
Fel Pennaeth Gwasanaeth parhaol, cewch gyfle i lywio newid hirdymor, dylanwadu ar benderfyniadau pwysig a helpu ysgolion a chymunedau i ffynnu.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dyddiad cau: 6 Rhagfyr 2026
Cyfweliadau cam cyntaf: 14 Rhagfyr 2026
Cyfweliadau cam olaf: 22 Rhagfyr 2026
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Liz Jones, Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau
E-bost: elizjones@valeofglamorgan.gov.uk
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl cyn gwneud cais, byddem yn falch o siarad â chi.
Rydym wedi ymrwymo i broses recriwtio cynhwysol. Os oes angen addasiadau rhesymol neu gymorth arnoch i gymryd rhan mewn unrhyw gam o'r broses, rhowch wybod i ni.
Gweler y Pecyn Recriwtio atodedig, sy'n cynnwys y proffil rôl a'r fanyleb person lawn, am ragor o wybodaeth am y cyfle.
Pennaeth Strategaeth, Dysgu Cymunedol a Adnoddau in Barry employer: Vale of Glamorgan Council
Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.