Amdanom ni
Mae'r Big Fresh Catering Company yn darparu prydau ysgol maethlon iach amser cinio, sy'n cydymffurfio â'r safonau Bwyd a Maeth a bennwyd gan Reoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013. Yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn darparu gwasanaeth Bwffe/Digwyddiadau o ansawdd uchel i ysgolion, Caffi Pafiliwn Pier Penarth, priodasau, a chwsmeriaid a chwmnïau allanol.
Yr hyn yr ydym yn ei gynnig
• Rôl arweinyddiaeth werth chweil mewn sefydliad dielw, sy'n cael ei yrru gan bwrpas.
• Y cyfle i lunio a thyfu portffolio caffi sy'n datblygu.
• Arweinyddiaeth gefnogol, cyfleoedd ar gyfer dilyniant, a diwylliant cwmni cydweithredol.
Uchelgeisiol – Meddwl gyda golwg ar y dyfodol, gan groesawu ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored – Yn agored i syniadau gwahanol ac yn atebol am y penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud.
Gyda’n gilydd – Gweithio gyda’n gilydd fel tîm sy’n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a phartneriaid, sy’n parchu amrywiaeth ac sydd wedi ymrwymo i wasanaethau o safon.
Balch – Balch o Fro Morgannwg: balch i wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.
Ynglŷn â'r rôl
Manylion Tâl: Gradd 5, SCP 8 - 12 £27,709 - £29,542
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 5/7 niwrnod – 37 o oriau’r wythnos
Prif Weithle: The Pier Pavilion Cafe
Rheswm am gynnig Swydd Dros Dro: Parhaol
Disgrifiad:
Dylech fod yn effeithlon, yn ddibynadwy ac yn ddeinamig ac yn gallu rheoli gwasanaeth arlwyo cost-effeithiol: Mae sgiliau coginio eithriadol a sgiliau cyfathrebu, trefnu a rheoli rhagorol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Amdanat ti
Bydd angen y canlynol arnoch:
• Gallu gweithio ar eich menter eich hun
• Gallu ymgysylltu â chwsmeriaid mewn modd cyfeillgar a chroesawgar
• Profiad blaenorol o reoli amgylchedd caffi, trin stoc a rheoli staff
• Ymwybodol o faterion ariannol
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
• Yn dda wrth roi sylw i fanylder
• Gallu ymateb yn hyblyg i amcanion gwasanaeth sy’n newid
• Dangos sgiliau rhyngbersonol cryf, gan gyflawni canlyniadau drwy ymroi a gweithio mewn tîm.
• Hylendid Bwyd Lefel 2
• Ymwybyddiaeth o Alergenau/Cyfraith Natasha
• Ymwybyddiaeth o Wasanaethau Cwsmeriaid
Gwybodaeth Ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: DAWN PREEN 07702 688826
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodol i gael rhagor o wybodaeth.
Goruchwyliwr Cafe - Y Pyrth in Barry employer: Vale of Glamorgan Council
Vale of Glamorgan Council is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that prioritises community impact and employee development. As an Asset Management Specialist, you will have the opportunity to contribute to meaningful projects while benefiting from professional growth opportunities and a supportive environment that values innovation and compliance.