Security Business Partner | Partner Busnes Diogelwch in Pontypridd

Security Business Partner | Partner Busnes Diogelwch in Pontypridd

Pontypridd Full-Time On-site
T

Pwrpas y swydd hon yw sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, y safonau, y polisïau a’r gofynion rheoleiddio diogelwch perthnasol, gan weithredu fel yr arweinydd gweithredol ar gyfer diogelwch ffisegol ar draws y sefydliad. Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a gwella cynlluniau, rhaglenni, gweithdrefnau a mesurau lliniaru diogelwch sy’n diogelu cydweithwyr, cwsmeriaid, asedau a seilwaith yn barhaus. Gan weithio’n agos gyda thimau gweithredol rheng flaen, rheolwyr a rhanddeiliaid allweddol, mae’r swydd yn darparu cyngor, arweiniad a sicrwydd proffesiynol ym maes diogelwch, gan sicrhau bod mesurau diogelwch yn ymarferol, yn gymesur ac yn cyd-fynd ag anghenion gweithredol. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r gwaith o nodi, asesu a rheoli risgiau a bygythiadau diogelwch, cydlynu ymatebion i ddigwyddiadau diogelwch, a hyrwyddo diwylliant diogelwch rhagweithiol ar draws y busnes.

Cyfrifoldebau’r swydd

  • Arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni strategaethau sy’n ymwneud â gwella diogelwch, drwy lunio cynlluniau sydd wedi’u dylunio i wella gallu TrC ym maes diogelwch a chyfrannu at rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus diogel.
  • Bod yn brif gyswllt diogelwch dynodedig ar gyfer DFT Landsec, yr Heddlu a Gwasanaethau Diogelwch, gan weithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau, cyfarfodydd a phob math arall o gyfathrebu, er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â rheoliadau diogelwch a bod TrC yn cael yr holl wybodaeth ddiweddaraf berthnasol.
  • Gweithredu fel arbenigwr pwnc ym maes Diogelwch, gan ddarparu sicrwydd a hyder i amrywiaeth o randdeiliaid mewnol drwy ddylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau a darparu cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â diogelwch; gan gynnwys cynlluniau gweithredol, prosiectau TrC a digwyddiadau arbennig.
  • Rheoli'r berthynas â chontractwr diogelwch TrC drwy gynnal cyfarfodydd a sicrhau cydymffurfiaeth â thelerau'r contract, er mwyn sicrhau bod bygythiadau a risgiau diogelwch sy’n ymwneud â TrC, ei phobl a’i hasedau yn cael eu rheoli’n effeithiol, a bod gwasanaeth effeithlon yn cael ei ddarparu drwy nodi cyfleoedd i sicrhau gwelliant parhaus.

Am beth rydyn ni’n chwilio

  • Lefel gradd mewn maes perthnasol, fel Diogelwch/Troseddeg, neu gymhwyster cyfatebol
  • Profiad amlwg mewn swydd strategol ym maes diogelwch / Plismona
  • Profiad o egwyddorion Diogelu drwy Ddylunio.
  • Profiad o ddatblygu, gweithredu ac ymgorffori polisïau a phrosesau.

Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.

Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.

Rydyn ni’n newid y ffordd y mae’r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni’n datblygu gweithlu sy’n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru’n teithio.

Pwy ydyn ni

Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru’n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r dewis cyntaf. Rydyn ni’n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o’r enw Rhwydwaith T, i’w gwneud hi’n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.

Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi’n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.

Rydyn ni’n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Mae'n debygol y cynhelir cyfweliadau o fewn 2-3 wythnos i'r dyddiad cau.

Security Business Partner | Partner Busnes Diogelwch in Pontypridd employer: Transport for Wales

At Pullman Rail, we pride ourselves on being one of Wales' leading inclusive employers, fostering a diverse work environment that reflects the communities we serve. As a Buyer in our Procurement team, you will benefit from a supportive culture that values professional growth and development, alongside competitive remuneration and opportunities to engage in meaningful projects within the safety-critical rail sector. Join us to make a significant impact while enjoying a collaborative atmosphere that encourages innovation and excellence.

T

Contact Details:

Transport for Wales Recruitment Team