Sylwch: contract am gyfnod penodol i 31/03/2028
Darparu cymorth diogelwch proffesiynol ac arbenigedd technegol i feysydd gweithredol mewn amgylchedd trafnidiaeth cyhoeddus, gan sicrhau bod y System Rheoli Diogelwch (SMS) yn cael ei rhoi ar waith yn effeithiol a bod risgiau diogelwch yn cael eu rheoli o ddydd i ddydd. Bydd y Partner Busnes Diogelwch yn gweithio'n agos gydag arweinwyr gweithredol i wreiddio arferion gweithio diogel, darparu cyngor ymarferol, a sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth, safonau a gweithdrefnau perthnasol y cwmni. Mae'r rôl yn gweithredu fel y rhyngwyneb allweddol rhwng y swyddogaeth diogelwch ganolog a gweithrediadau rheng flaen, gan gefnogi'r gwaith o ddarparu diwylliant diogelwch rhagweithiol sy’n seiliedig ar risg
Cyfrifoldebau'r swydd
- Bod yn brif gyswllt diogelwch ar gyfer meysydd gweithredol dynodedig, gan ddarparu cyngor, arweiniad a chymorth.
- Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn o broffil risg a gweithrediadau eich maes busnes.
- Cefnogi timau gweithredol i nodi peryglon, asesu risgiau a rhoi mesurau rheoli effeithiol ar waith.
- Sicrhau y cydymffurfir â deddfwriaeth diogelwch, safonau a gweithdrefnau'r cwmni (e.e. HSWA, ROGS lle bo hynny'n berthnasol).
Am beth rydyn ni'n chwilio
- Profiad mewn rôl ddiogelwch ym maes trafnidiaeth gyhoeddus neu ddiwydiant risg uchel tebyg.
- Gwybodaeth ymarferol am ddeddfwriaeth diogelwch a gofynion rheoleiddiol (e.e. HASAWA, ROGS lle bo hynny'n berthnasol).
- Dealltwriaeth o brosesau asesu risg a systemau rheoli diogelwch.
- Profiad o gefnogi ymchwiliadau i ddigwyddiadau a defnyddio technegau datrys problemau strwythuredig.
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.
Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.
Rydyn ni'n newid y ffordd y mae'r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni'n datblygu gweithlu sy'n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru'n teithio.
Pwy ydyn ni
Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru'n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw'r dewis cyntaf. Rydyn ni'n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o'r enw Rhwydwaith T, i'w gwneud hi'n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.
Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi'n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.
Rydyn ni'n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o'r swydd os byddwch chi'n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni'n cadw'r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.
Mae'n debygol y cynhelir cyfweliadau o fewn 2-3 wythnos i'r dyddiad cau.
Safety Business Partner (Projects) | Partner Busnes Diogelwch (Prosiectau) in Pontypridd employer: Transport for Wales
At Pullman Rail, we pride ourselves on being one of Wales' leading inclusive employers, fostering a diverse work environment that reflects the communities we serve. As a Buyer in our Procurement team, you will benefit from a supportive culture that values professional growth and development, alongside competitive remuneration and opportunities to engage in meaningful projects within the safety-critical rail sector. Join us to make a significant impact while enjoying a collaborative atmosphere that encourages innovation and excellence.