[MEWNOL] Revenues Officer Career Pathway in Pontypool

[MEWNOL] Revenues Officer Career Pathway in Pontypool

Pontypool Full-Time 31500 - 38500 £ / year (est.) On-site
Torfaen County Borough Council

At a Glance

  • Tasks: Support residents and businesses with excellent customer service and manage council tax accounts.
  • Company: Join a supportive local council team in Torfaen.
  • Benefits: Competitive salary, full-time hours, and structured career progression.
  • Other info: Great opportunities for career growth and a diverse work environment.
  • Why this job: Make a real difference in your community while developing valuable skills.
  • Qualifications: Customer-focused attitude and willingness to learn new processes.

The predicted salary is between 31500 - 38500 £ per year.

Mae manylion gofynion y swydd isod. Ble mae'n berthnasol, mae'r sgiliau, cymwysterau ac aelodaeth gofynnol am y swydd yma wedi eu cynnwys hefyd.

Manylion swydd

  • Cyflog £27,274 - £33,119 | Gradd gyrfa 3/4/5
  • Oriau cytundebol 37
  • Sail Amser llawn
  • Pecyn Parhaol
  • Categori/math o swydd: Adnoddau, Refeniw a Budd-daliadau
  • Dyddiad postio 12/11/2026
  • Cyfeirnod swydd REQ006692

Mae’r swydd yma ar gael dim ond i gyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (CBST) a weather asiantaeth sy’n gweithio i CBST ar hyn o bryd. Mae cyfle cyffrous wedi codi i Swyddog Refeniw ymuno â'n Gwasanaeth Refeniw a Rennir. Mae hon yn rôl hynod o werth chweil lle byddwch yn cefnogi trigolion a busnesau, yn darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, ac yn helpu i sicrhau bod cyfrifon Dreth Gyngor ac Ardrethi Busnes yn cael eu rheoli'n gywir ac yn effeithlon. Mae'r rôl unigryw hon sy’n cynnig llwybr gyrfa strwythuredig ar gyfer dilyniant o fod yn weinyddwr lefel mynediad (Gradd 3) i Swyddog Refeniw cwbl fedrus (Gradd 5). P'un a ydych yn ystyried dechrau gyrfa mewn llywodraeth leol neu efallai bod gennych brofiad eisoes o baratoi biliau ac adennill y Dreth Gyngor neu Ardrethi Busnes, byddwn yn darparu'r hyfforddiant, y cymorth a'r cyfleoedd datblygu sydd eu hangen i'ch helpu i lwyddo a symud ymlaen.

Prif Gyfrifoldebau:

  • Cynnal cyfrifon y Dreth Gyngor ac Ardrethi Busnes y Cyngor, eu diweddaru, a sicrhau bod gwybodaeth cwsmeriaid yn gywir ac yn gyfredol.
  • Prosesu gostyngiadau, eithriadau, disgowntiau a rhyddhad yn unol â deddfwriaeth a gweithdrefnau'r Cyngor.
  • Cefnogi cwsmeriaid sydd ag ymholiadau am eu biliau, eu cyfrifon a threfniadau talu.
  • Cynorthwyo’r gwaith o adennill dyled sydd heb ei dalu a hyrwyddo atebion cynaliadwy i ad-dalu.
  • Defnyddio systemau refeniw arbenigol i reoli cofnodion, cynnal ansawdd data a chyflawni terfynau amser statudol.

Yr Hyn Rydyn Ni’n Chwilio Amdano:

  • Ffocws ar y cwsmer: Rydych yn mwynhau helpu pobl ac yn gallu cyfathrebu'n glir ac yn sensitif, yn enwedig wrth drafod materion ariannol.
  • Cywir a threfnus: Gallwch weithio'n ofalus gyda gwybodaeth ac rydych yn gyffordmust yn trin rhifau a data yn gywir.
  • Yn barod i ddysgu: Rydych yn awyddus i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau a gallwch ddysgu prosesau, deddfwriaeth a systemau newydd gyda chymorth a hyfforddiant.
  • Cydnerth ac yn gallu addasu: Gallwch reoli llwyth gwaith amrywiol, cadw’n drefnus ac ymateb yn gadarnhaol i flaenoriaethau sy’n newid.
  • Cydweithio: Rydych yn gweithio'n dda gyda chydweithwyr ac yn cyfrannu'n gadarnhaol yn rhan o dîm.

Am drafodaeth anffurfiol ynghylch y swydd wag hon, cysylltwch ag un o Arweinwyr Tîm y Gwasanaeth Refeniw a Rennir: Sharon Knight – Sharon.Knight@torfaen.gov.uk, Paul Jones – Paul.Jones@torfaen.gov.uk.

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w cyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni’r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai driwn wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.

[MEWNOL] Revenues Officer Career Pathway in Pontypool employer: Torfaen County Borough Council

Henllys Church in Wales School is an excellent employer, offering a supportive and inclusive work environment where every team member is valued. With a commitment to employee growth and development, the school provides opportunities for training and advancement while ensuring high standards of hygiene and cleanliness for its 180 students. Located in the vibrant community of Cwmbran, the school fosters a culture of diversity and respect, making it an ideal place for dedicated individuals looking to make a meaningful impact.

Torfaen County Borough Council

Contact Details:

Torfaen County Borough Council Recruitment Team

We think you need these skills to ace [MEWNOL] Revenues Officer Career Pathway in Pontypool

Communication Skills
Problem-Solving Skills
Time Management
Attention to Detail
Adaptability
Teamwork
Flexibility