Chief Executive Officer / Prif Weithredwr in Cardiff

Chief Executive Officer / Prif Weithredwr in Cardiff

Cardiff Full-Time On-site
T

Tir Natur yw'r unig elusen yng Nghymru sydd wedi ymroi'n llwyr i ailwylltio. Rydym yn gweithio i adfer natur ar raddfa'r dirwedd, gan ddatblygu model sydd wedi'i wreiddio mewn cymunedau lleol ac yn niwylliant Cymru ac wedi'i lywio gan Egwyddorion Ailwylltio'r IUCN.

Ar ôl pedair blynedd o ddatblygu, mae Tir Natur wedi sicrhau 1,195 erw o dir yng Nghwm Doethïe a chyllid i sefydlu safle ailwylltio cyntaf Cymru ar raddfa'r dirwedd. Rydym bellach yn cychwyn ar y gwaith o gyflawni ac yn chwilio am Brif Weithredwr i arwain yr elusen drwy'r cam nesaf pwysig hwn.

I ddechrau, bydd y Prif Weithredwr yn cryfhau systemau'r sefydliad, capasiti'r tîm a'n ffordd o fesur effaith, gan sicrhau bod gennym y sylfeini sydd eu hangen i gyflawni'n effeithiol ac yn cynaliadwy. Gan adeiladu ar hyn, bydd yn arwain ar ddatblygiad tymor hirach yr elusen drwy sicrhau buddsoddiadau, meithrin partneriaethau strategol a datblygu model y gellir ei efelychu ar gyfer ailwylltio ar raddfa'r dirwedd ledled Cymru.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i siapio elusen sy'n tyfu, gan ddylanwadu ar syniadau nid yn unig am sut caiff tir ei reoli, ond hefyd sut gall natur a chymunedau lleol ffynnu gyda'i gilydd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfuno arweinyddiaeth sefydliadol ymarferol gydag ymroddiad i ailwylltio, sgiliau cryf mewn meithrin perthnasau, a dealltwriaeth o gyd-destun diwylliannol a gwleidyddol cefn gwlad Cymru.

Mae Cymraeg llafar rhugl yn hanfodol. Mae’r rôl yn un o bell yng Nghymru, gan deithio’n rheolaidd i Gwm Doethïe a lleoliadau eraill yn ôl yr angen.

Blaenoriaethau Allweddol

  • 1. Adeiladu sefydliad effeithiol sy'n gweithio i wneud gwahaniaeth Sefydlu'r systemau, y prosesau a'r capasiti angenrheidiol o fewn y tîm i gyflawni'n effeithiol, sicrhau atebolrwydd clir a mesur effeithiau ecolegol a chymunedol yn drylwyr.
  • 2. Sicrhau cynaliadwyedd ariannol a galluogi twf Gweithio gyda'r Rheolwr Codi Arian a'r Bwrdd i sicrhau amrywiaeth o ffynonellau incwm, cryfhau'r biblinell gyllid, bodloni ymrwymiadau ariannol a datblygu model cynaliadwy ar gyfer ailwylltio ar raddfa'r dirwedd.
  • 3. Datblygu partneriaethau a dylanwad Meithrin perthnasoedd o ymddiriedaeth gyda chymunedau, rheolwyr tir, cyrff cyhoeddus, cyllidwyr a phartneriaid strategol. Cynrychioli Tir Natur, gan godi proffil ailwylltio a'i gyfraniad at natur, gwytnwch hinsawdd a lles cymunedau.
  • 4. Arwain ar y cam nesaf yn natblygiad Tir Natur Trosi uchelgais hirdymor yr elusen yn gynlluniau ymarferol, gan gryfhau'r gwaith o gyflawni yng Nghwm Doethïe a datblygu cyfleoedd ar gyfer dylanwadu'n ehangach ar raddfa'r dirwedd ar draws Cymru.

Dyddiad cau: Diwedd dydd Iau 19 Tachwedd

Ymweliad safle (dewisol): Dydd Sadwrn 21 neu ddydd Sul 22 Tachwedd

Cyfweliad Cam 1: Dydd Iau 26 Tachwedd (lleoliad i'w gadarnhau)

Cyfweliad Cam 2: Dydd Mawrth 1 Rhagfyr ar safle Tir Natur

#J-18808-Ljbffr

T

Contact Details:

Tir Natur Recruitment Team