Rheolwr Prosiect 50 Mlynedd o Dreftadaeth

Rheolwr Prosiect 50 Mlynedd o Dreftadaeth

Full-Time On-site
T

50 Mlynedd o The Wallich - Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd

Neges gan Sian Aldridge, Y Prif Weithredwr

Wrth i The Wallich ddathlu ei ben-blwydd yn 50 oed, mae gennym gyfle pwysig i fyfyrio ar ein hanes ar yr un pryd ag edrych yn gadarn tuag at y dyfodol. Ers pum degawd, rydym ni wedi sefyll ochr yn ochr â phobl sy’n ddigartref ledled Cymru, gan herio anghyfiawnder, cynyddu lleisiau a gweithio i greu newid parhaol.

Mae’r rÿl hon yn ganolog i gofnodi’r etifeddiaeth honno. Drwy ddod â’r profiadau, yr atgofion a'r deunyddiau sydd wedi siapio ein sefydliad a stori ehangach digartrefedd yng Nghymru at ei gilydd, bydd y prosiect hwn yn helpu i sicrhau bod lleisiau sy’n cael eu hanwybyddu’n rhy aml yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u cadw am genedlaethau i ddod.

Fel y gwelwch drwy gydol y pecyn hwn, rydym ni’n chwilio am weithiwr treftadaeth proffesiynol profiadol ac arweinydd prosiect medrus sy’n gallu troi gweledigaeth uchelgeisiol yn rhaglen gynhwysol, rymus a chyflawnadwy. Byddwch yn gydweithredol ac yn chwilfrydig, yn gallu meithrin perthnasoedd dibynadwy ar draws cymunedau a sectorau, ac wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl sydd â phrofiad bywyd yn cael eu cydnabod fel awduron a cheidwaid eu hanes eu hunain.

Os ydych chi’n rhannu ein cred y gall treftadaeth herio canfyddiadau, cryfhau dealltwriaeth ac ysbrydoli newid, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Dyma gyfle prin i helpu i siapio casgliad ac arddangosfa o bwys cenedlaethol, ac i greu gwaddol parhaol wrth i The Wallich ddechrau ar ei 50 mlynedd nesaf.

Oriau Gwaith:37.5 awr yr wythnos, Dydd Llun - Dydd Gwener 09:00-17:00 gyda rhywfaint o hyblygrwydd

Mae The Wallich yn elusen flaenllaw ym maes digartrefedd a chysgu allan yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith arloesol i gefnogi pobl ledled y wlad, ewch i wefan The Wallich. Dysgwch ragor am The Wallich, prif elusen ddigartrefedd Cymru www.thewallich.com/about-us.

Helpwch i greu casgliad cenedlaethol cyntaf Cymru sy’n ymroddedig i dreftadaeth ddigartrefedd.

Ers 50 mlynedd, mae The Wallich wedi sefyll ochr yn ochr â phobl sy’n ddigartref. Bydd y prosiect pwysig hwn yn dwyn ynghyd lleisiau, atgofion a deunyddiau a allai gael eu colli fel arall - a sicrhau bod pobl sydd â phrofiad bywyd yn cael eu cydnabod fel awduron a cheidwaid y rhan bwysig hon o hanes Cymru.

Gan weithio gyda chymunedau ledled Cymru, ochr yn ochr ag ymgyrchwyr arloesol, academyddion ac arbenigwyr treftadaeth, byddwn yn datgelu ac yn diogelu hanesion llafar, ffotograffau, dogfennau ac arteffactau. Gyda’i gilydd, bydd y rhain yn adrodd stori onest a phwerus am sut mae digartrefedd wedi newid dros y pum degawd diwethaf, a beth sydd angen ei newid o hyd i roi diwedd ar ddigartrefedd.

Bydd arddangosfa amlgyfrwng ddwyieithog, wedi’i llunio gan waith ymchwil gan gymheiriaid, adrodd straeon ar y cyd a mynegiant creadigol yn ganolog i’r prosiect. Bydd yn herio canfyddiadau, yn ehangu mynediad at dreftadaeth ac yn ysbrydoli sgyrsiau newydd am ddigartrefedd. Bydd y casgliad yn creu gwaddol cenedlaethol parhaol, gan sicrhau bod y profiadau hyn yn llywio dealltwriaeth y cyhoedd, arferion proffesiynol a newid am genedlaethau i ddod.

Yr effaith y byddwch yn ei chael

Dyma gyfle i siapio prosiect treftadaeth sydd o bwys cenedlaethol, o lawr gwlad i fyny.

Gyda chymorth grant cam datblygu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu Prosiect 50 Mlynedd o Dreftadaeth The Wallich ac yn helpu i droi gweledigaeth uchelgeisiol yn rhaglen ddiddorol a chyflawnadwy. Bydd eich gwaith yn ganolog i sicrhau cyllid cyfnod cyflenwi a chreu etifeddiaeth barhaol i Gymru.

Byddwch yn dod â phobl sydd â phrofiad bywyd, prifysgolion, sefydliadau treftadaeth, grwpiau cymunedol a chydweithwyr ar draws The Wallich at ei gilydd. Byddwch yn cydlynu gwaith ymchwil ac ymgysylltu, yn datblygu partneriaethau cryf ac yn sicrhau bod pob cam o’r prosiect yn gynhwysol, yn uchelgeisiol ac yn cael ei gyflawni i safon uchel.

Mae hon yn fwy na rÿl rheoli prosiect. Byddwch yn helpu i ddatgelu straeon nad ydynt wedi cael eu clywed yn aml, yn creu cyfleoedd i bobl adrodd eu hanes eu hunain ac yn dylanwadu ar sut mae digartrefedd yn cael ei ddeall yng Nghymru. Bydd y sylfeini rydych chi’n eu hadeiladu yn siapio casgliad cenedlaethol, arddangosfa gyhoeddus a dysgu a all lywio gwaith The Wallich a sgyrsiau ehangach am ddigartrefedd dros y 50 mlynedd nesaf.

Os ydych chi’n weithiwr treftadaeth proffesiynol profiadol sy’n cyfuno arweinyddiaeth prosiect medrus â chwilfrydedd, cydweithio ac ymrwymiad i adrodd straeon cynhwysol, dyma eich cyfle i greu rhywbeth sy’n wirioneddol arloesol.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Safonol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Sylwch: Mae hi’n hanfodol meddu ar drwydded yrru a cherbyd eich hun.

Ni fyddwn yn defnyddio asiantaethau i lenwi’r swydd hon a gofynnwn yn garedig i asiantaethau beidio â chysylltu yn cynnig helpu gyda llenwi’r swydd hon.

Yn The Wallich, rydym ni wedi ymrwymo’n llawn i gefnogi a gwella Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant i sicrhau bod gennym y gymuned orau bosib. Mae lle bob amser i esblygu a gwella ac rymdin ni’n ymdrechu i greu amgylchedd lle gall yr holl staff ddod â’u hunain yn ddiffuant i’r gweithle. Rydym ni’n croesawu ac yn annog ceisiadau o bob cefndir ac os hoffech chi gael unrhyw gymorth gyda’ch cais neu i drafod unrhyw addasiadau y gallai fod eu hangen arnoch chi,

#J-18808-Ljbffr

Rheolwr Prosiect 50 Mlynedd o Dreftadaeth employer: The Wallich

The Wallich is an exceptional employer dedicated to making a meaningful impact in the community by supporting individuals facing homelessness. With a strong focus on equity, diversity, and inclusion, we foster a supportive work culture that empowers our staff to bring their authentic selves to work. Employees benefit from flexible working hours, competitive pay for sleep-in shifts, and opportunities for personal and professional growth within a passionate team committed to positive change.

T

Contact Details:

The Wallich Recruitment Team