At a Glance
- Tasks: Shape higher education policy and engage with key stakeholders to drive impactful change.
- Company: Join QAA, a leading independent quality body for UK higher education.
- Benefits: Flexible remote work, competitive salary, and excellent benefits package.
- Other info: Inclusive environment with opportunities for professional growth and collaboration.
- Why this job: Be part of a mission to enhance educational quality and standards across the UK.
- Qualifications: Passion for education policy and strong communication skills required.
The predicted salary is between 41310 - 52020 £ per year.
Lleoliad: Rôl o-bell-yn-gyntaf, â chyfle i weithio'n hyblyg o gartref, cyn belled â bod hynny o fewn y DU.
Math o Swydd: Llawn-amser
Oriau: 35 awr yr wythnos, gyda hyblygrwydd ynghylch sut mae'r oriau'n cael eu gweithio.
Cyflog: £41,310 - £52,020 y flwyddyn, yn dibynnu ar wybodaeth, sgiliau a phrofiad, ynghyd â buddion rhagorol.
Dyddiad cau: 30 ain Tachwedd 2026
Ymunwch â QAA. QAA yw corff ansawdd annibynnol y DU ar gyfer addysg drydyddol. Ein nod yw sicrhau bod myfyrwyr a dysgwyr yn profi addysg o'r ansawdd uchaf posibl. Ni yw awdurdod y DU ar ansawdd a safonau, gan weithredu fel ceidwad cyfeirbwyntiau ar ran y sector, gan gynnwys Côd Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch, Datganiadau Meincnod Pwnc, a'r Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch. Rydym yn gweithio gyda llywodraethau, cyrff cyllido a darparwyr addysg ledled y DU ac yn rhyngwladol i gefnogi a gwella ansawdd a safonau.
Yn Lloegr, mae ein rhaglen aelodaeth yn darparu adnoddau a chefnogaeth i arweinwyr strategol, arbenigwyr ansawdd a myfyrwyr a dysgwyr fel ei gilydd. Yn rhyngwladol, rydym yn cael ein cydnabod fel un o gyrff ansawdd blaenllaw'r byd, gan gefnogi enw da a chyrhaeddiad addysg drydyddol y DU trwy bartneriaethau byd-eang ac addysg drawswladol.
Gan weithio gyda rhanddeiliaid allanol allweddol QAA, gan gynnwys Aelodau QAA, bydd deiliad y swydd yn helpu i ddatblygu, codi ymwybyddiaeth a chyflawni agenda polisi a materion cyhoeddus QAA. Bydd deiliad y swydd, mewn partneriaeth â chydweithwyr QAA, yn datblygu safbwyntiau polisi ym meysydd gweithredu ac arbenigedd QAA ac yn rheoli enw da QAA, gan sicrhau bod negeseuon effeithiol yn cyrraedd rhanddeiliaid y sector a chynulleidfaoedd ehangach y tu hwnt i'r sector addysg uwch.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n barod i gychwyn ac sy'n awyddus i gymryd rhan yn y ddadl ynghylch polisi addysg uwch a chefnogi safle a dylanwad QAA. Bydd yr ymgeisydd cywir yn rhagweithiol wrth weld cyfleoedd i hyrwyddo strategaeth QAA trwy weithgarwch polisi a materion cyhoeddus effeithiol, a gweithio ar draws y sefydliad i wneud y mwyaf o botensial gwaith eang QAA ar draws y sector a chyda llunwyr polisi.
Gweithio yn QAA. Rydym yn asiantaeth o-bell-yn-gyntaf yn y DU sydd wedi'i hadeiladu ar ymddiriedaeth a hyblygrwydd, lle rydym yn canolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na lleoliad. Mae hyn yn cefnogi darpariaeth gref, cydweithio a llesiant cydweithwyr. Er bod y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud o bell, mae cyfleoedd achlysurol i ddod ynghyd, wyneb-yn-wyneb, ar gyfer cydweithio, ymgysylltu neu weithgareddau penodol lle mae hyn yn ychwanegu gwerth.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30ain Tachwedd. Mae ragor o wybodaeth am y rôl i'w gweld yn y swydd-ddisgrifiad. Byddwn yn darparu manylion llawn ymlaen llaw fel eich bod chi'n gwybod beth i'w ddisgwyl a chael amser i baratoi. Disgwylir cynnal cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 7fed Rhagfyr.
Ein hymrwymiad i gynhwysiant. Mae QAA wedi ymrwymo i degwch, amrywioldeb a chynhwysiant ac yn gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae pobl o wahanol gefndiroedd, profiadau a safbwyntiau yn ei wneud. Ein nod yw creu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, yn gallu bod yn nhw eu hunain ac yn cael eu cefnogi i gyfrannu a chyflawni eu gorau. Waeth beth yw eu hunaniaeth na'u cefndir. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau proces recriwtio hygyrch a theg. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch i gymryd rhan mewn unrhyw ran o'r broses recriwtio, cysylltwch â ni yn careers@qaa.ac.uk fel y gallwn gefnogi eich anghenion.
Prif Swyddog Polisi employer: The Quality Assurance Agency for Higher Education
The Quality Assurance Agency for Higher Education is an exceptional employer, offering a collaborative work culture that values innovation and professional growth. With opportunities to engage in meaningful international projects and a commitment to employee development, you will be part of a team dedicated to enhancing the quality of higher education globally. Enjoy the flexibility of remote work while contributing to impactful accreditation reviews and building trusted partnerships.
Contact Details:
The Quality Assurance Agency for Higher Education Recruitment Team