Project Manager in Barry

Project Manager in Barry

Barry Full-Time No working from home possible
The Mullany Fund

Teitl y Swydd: Rheolwr Prosiect

Yn Atebol i: Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Lleoliad: De Cymru / Gweithio Hybrid

Cyflog: £30,000 – £35,000 y flwyddyn

Dyddiad Cychwyn: Dydd Mawrth 1 Medi 2026

Diben y swydd

Mae Cronfa Mullany (The Mullany Fund) yn elusen arobryn yn Ne Cymru sy’n canolbwyntio ar gynyddu symudedd cymdeithasol trwy addysg. Mae’r rôl hon yn gyfrifol am arwain cyfeiriad strategol a darparu rhaglen e-fentora ddwyieithog TMF (Together Making Futures), gan gefnogi pobl ifanc ddifreintiedig rhwng 14 a 19 oed ledled Cymru. Bydd y Rheolwr Prosiect yn cael ei gefnogi gan Gynorthwyydd Gweinyddol i gyflawni gweithrediadau’r rhaglen a chyfathrebu â rhanddeiliai. Bydd hefyd yn helpu i gynnal a datblygu perthnasoedd â rhanddeiliai, gan wella adnoddau’r rhaglen yn barhaus er mwyn sicrhau mentora effeithiol ac ymgysylltiad hirdymor.

  • Cyfrannu at godi arian drwy ysgrifennu ceisiadau grant a datblygu strategaethau cynaliadwyedd.
  • Arwain a rheoli’r rhaglen e-fentora, gan gynnwys cynllunio strategol, goruchwyliaeth ariannol, ac adrodd i’r ymddiriedolwyr a’r cyllidwyr.
  • Goruchwylio a darparu sesiynau e-fentora, sgyrsiau Insight, rhaglen Future Routes, ac ehangu cyfleoedd profiad gwaith i fentoreion gyda chyflogwyr STEM lleol.
  • Cynnal a datblygu perthnasoedd ag ysgolion, colegau, mentoriaid, mentoreion, partneriaid busnes, diwydiant a phrifysgolion.
  • Rheoli cyfathrebu â rhanddeiliai, gan gynnwys ymholiadau dydd i ddydd, ceisiadau gan y wasg, a chysylltiadau cyhoeddus.
  • Cefnogi cofrestru mentoriaid a mentoreion, gwiriadau DBS, a rheoli’r gronfa ddata.
  • Datblygu a chyflwyno themâu wythnosol, negeseuon ac adnoddau hyfforddi.
  • Monitro a gwerthuso canlyniadau’r rhaglen, gan gynnwys casglu a dadansoddi data meintiol ac ansoddol.
  • Cefnogi recriwtio ac ymgysylltu mentoriaid a mentoreion ochr yn ochr â’r Swyddog Twf ac Ymgysylltu.
  • Datblygu presenoldeb TMF ar y cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau digidol ochr yn ochr â’r Cynorthwyydd Gweinyddol a Chyfathrebu.
  • Sicrhau bod polisïau diogelu, iechyd a diogelwch, a chyfle cyfartal yn cael eu gweithredu.
  • Trefnu cyfarfodydd yr ymddiriedolwyr, cydlynu pwyntiau gweithredu, a chynnal dogfennaeth y prosiect.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill i gefnogi cenhadaeth yr elusen.

Cymwysterau a Phrofiad Hanfodol

  • TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Mathemateg a Saesneg; Lefel A a gradd (neu gymhwyster cyfatebol).
  • Profiad o reoli prosiectau, gweithio yn y sector addysg, a monitro/gwerthuso.
  • Sgiliau trefnu, ysgrifennu a chyfathrebu llafar rhagorol.
  • Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Sgiliau cyfrifiadurol da (Excel, Word ac Outlook).
  • Ymrwymiad i gyfrinachedd, cyfle cyfartal a safonau proffesiynol uchel.
  • Y gallu i weithio’n hyblyg a blaenoriaethu gofynion sy’n cystadlu â’i gilydd.
#J-18808-Ljbffr

Project Manager in Barry employer: The Mullany Fund

The Mullany Fund is an exceptional employer, dedicated to fostering a supportive and inclusive work culture that prioritises social mobility through education. Located in South Wales, the charity offers a hybrid working model, competitive salary, and opportunities for professional growth, allowing employees to make a meaningful impact in the community while developing their skills in project management and stakeholder engagement.

The Mullany Fund

Contact Details:

The Mullany Fund Recruitment Team