Athro/Athrawes Ysgol Gynradd in Aberystwyth

Athro/Athrawes Ysgol Gynradd in Aberystwyth

Aberystwyth Full-Time On-site
TeacherActive Limited

Teitl y Swydd: Athro/Athrawes Ysgol Gynradd

Lleoliad: Ceredigion

Dyddiad Dechrau: Dechrau ar Unwaith

Cwestiwn 1: A allwch chi ysbrydoli meddyliau ifanc drwy ddefnyddio dull addysgu diddorol a deniadol?

Cwestiwn 2: A oes gennych sgiliau rheoli dosbarth cryf?

Cwestiwn 3: A oes gennych wybodaeth gadarn am y Cwricwlwm Cynradd?

Mae TeacherActive, un o asiantaethau recriwtio addysg mwyaf blaenllaw'r DU, yn falch o fod yn gweithio gyda nifer o ysgolion cynradd ledled Ceredigion. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu athrawon cynradd ymroddedig, brwdfrydig ac o safon uchel i'n hysgolion, yn ogystal â chynnig cyfleoedd arbenigol mewnol ar gyfer datblygiad proffesiynol a dilyniant gyrfa er mwyn cynnal ein safonau uchel.

P'un a ydych yn athro neu'n athrawes cynradd sy'n chwilio am waith cyflenwi o ddydd i ddydd, swyddi hirdymor neu swyddi parhaol, mae ein tîm arbenigol o ymgyngorwyr yn gweithio gydag amrywiaeth o ysgolion a lleoliadau addysgol. Byddant ar gael 24/7 i'ch cefnogi drwy ein proses gofrestru ar-lein syml a hwylus.

Rydym yn chwilio am athrawon cynradd yng Ngheredigion sydd â'r canlynol:

  • Statws Athro Cymwysedig (SAC/QTS) – croesewir athrawon newydd gymhwyso (NQTs) hefyd
  • Profiad o addysgu mewn ysgol cynradd
  • Sgiliau rheoli dosbarth rhagorol

Yn gyfnewid am yr uchod, gallwch ddisgwyl derbyn:

  • Tîm ymroddedig o ymgyngorwyr sydd ar gael 24/7 i'ch cefnogi drwy'r broses gofrestru syml
  • Cyrsiau a thystysgrifau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP/CPD) fel rhan o'n rhaglen My-Progression
  • Cyfraddau cyflog sy'n arwain y farchnad
  • Cynllun Cyfeirio Ffrind TeacherActive – Derbyniwch hyd at £100 pan fyddwch yn cyfeirio ffrind atom! Mae telerau ac amodau'n berthnasol.

Mae ein staff yn cael eu talu drwy'r system Talu Wrth Ennill (PAYE), felly gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod yn talu'r swm cywir o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol. Nid oes unrhyw ffioedd gweinyddol ychwanegol yn cael eu tynnu o'ch cyflog haeddiannol.

#J-18808-Ljbffr

Athro/Athrawes Ysgol Gynradd in Aberystwyth employer: TeacherActive Limited

TeacherActive is an exceptional employer, offering a nurturing and inclusive environment for Teaching Assistants in Manchester. With a strong focus on professional development and a supportive team culture, employees are empowered to make a meaningful impact on the lives of pupils with additional needs. The school’s commitment to ongoing training ensures that staff can grow their skills while contributing to a rewarding educational experience.

TeacherActive Limited

Contact Details:

TeacherActive Limited Recruitment Team