Ymgynghorydd Arian Myfyrwyr

Ymgynghorydd Arian Myfyrwyr

Full-Time 22500 - 27500 £ / year (est.) On-site
Swansea University

At a Glance

  • Tasks: Provide financial guidance to students and help them navigate funding options.
  • Company: Swansea University, a vibrant research-led institution since 1920.
  • Benefits: Enjoy a supportive work environment with excellent work-life balance and career growth.
  • Other info: Join a diverse team committed to equality and inclusion.
  • Why this job: Make a real difference in students' lives by empowering them with financial literacy.
  • Qualifications: Strong understanding of student finance and effective communication skills.

The predicted salary is between 22500 - 27500 £ per year.

Y Brifysgol Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog. Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Mae'r Tîm Cyngor Ariannol am benodi Ymgynghorydd Ariannol i Fyfyrwyr i weithio yn ein hadran Cymorth a Chadw Myfyrwyr, sy'n rhan o'r Gyfarwyddiaeth Bywyd Myfyrwyr. Pwrpas y rôl hon yw darparu arweiniad i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr ar bob agwedd ar gyllid myfyrwyr, gan weithredu fel y pwynt cyswllt i fyfyrwyr sy'n wynebu anawsterau ariannol a chynnig cyngor ar opsiynau ariannu. Mae'r Tîm Cynghori Ariannol yn wasanaeth rhagweithiol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, ac mae'n gweithredu yn adran Cymorth a Chadw Myfyrwyr yn y Gyfarwyddiaeth Bywyd Myfyrwyr. Mae'r gwasanaeth yn symleiddio rheoli ariannol i fyfyrwyr, yn hyrwyddo llythrennedd ariannol ac yn cynnig cymorth teilwredig i rymuso myfyrwyr i lywio heriau ariannol â hyder.

Gan weithio mewn amgylchedd prysur a chyflym, bydd y rôl hon yn cynnig cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr ynghylch rheoliadau cyllido a darpariaeth cymorth myfyrwyr. Bydd hyn yn gofyn am ddealltwriaeth dda o'r boblogaeth amrywiol o fyfyrwyr a'r gallu i gynnig cyngor ac arweiniad effeithiol. Mae'r rôl hon hefyd yn cynnwys datblygu a chyflwyno gweithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr, gyda'r nod o feithrin gallu ariannol effeithiol ymhlith y boblogaeth myfyrwyr gyfan. Dyma rôl ysgogol a heriol sy'n gofyn am ymagwedd hyblyg ac arloesol, a gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys sesiynau cyngor gydag aelodau staff unigol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon. Bydd angen darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau. Mae'r swydd hon yn un amser llawn, dros gyfnod penodol (12 mis).

Ymgynghorydd Arian Myfyrwyr employer: Swansea University

Swansea University is an exceptional employer, offering a vibrant work culture that prioritises collaboration and innovation within the School of Social Sciences. Employees benefit from professional development opportunities, a supportive environment, and the chance to make a meaningful impact on care-experienced children's educational outcomes in Wales. Located in a beautiful coastal city, the university provides a unique setting for personal and professional growth.

Swansea University

Contact Details:

Swansea University Recruitment Team

We think you need these skills to ace Ymgynghorydd Arian Myfyrwyr

Financial Guidance
Student Support
Communication Skills
Problem-Solving Skills
Understanding of Diverse Student Populations
Financial Literacy Promotion
Advisory Skills